Brendan Rodgers
Bydd gan Abertawe bum chwaraewr fydd yn chwarae eu gêm gystadleuol gyntaf i’r clwb yn erbyn Mna City heno.
Mae disgwyl i’r ymosodwyr Danny Graham a Leroy Lita, y golwr, Michel Vorm, yr amddiffynnwr Steven Caulker a’r asgellwr Wayne Routledge oll ddechrau heno yn y Stadiwm Etihad.
Mae gobaith hefyd y gall y capten, Garry Monk, oresgyn anaf i’w droed er mwyn arwain y tîm allan yn gêm gyntaf eu hymgyrch gyntaf yn yr Uwch Gynghrair.
Rodgers gyda City?
Datgelodd Brendan Rodgers mewn cynhadledd heddiw y gallai fod wedi bod yn eistedd gyda Roberto Mancini heno, yn is-hyfforddwr iddo, petai wedi derbyn cynnig gan Man City ar ôl gadael Reading yn 2009.
Ond fe benderfynodd Rodgers wrthod y cynnig a chymryd y swydd wag yn y Stadiwm Liberty, ac mae’n siŵr o fod yn falch o’r penderfyniad hwnnw nawr.
“Bues i yn Milan yn cwrdd â Mancini (rheolwr Man City) am rai dyddiau, ac fe gefais fewnwelediad i’w cynlluniau ar gyfer y clwb. Ond fy uchelgais oedd bod yn rheolwr fy hun, felly roeddwn i’n falch o gael y cynnig gan Abertawe,” meddai.
Mae nifer yn disgwyl i Abertawe syrthio yn syth nol lawr i’r bencampwriaeth wedi’r tymor hwn, a does neb yn disgwyl iddynt ddod yn ôl o Fanceinion gyda buddugoliaeth.
Ond mae Mancini yn credu fod yr Elyrch yn siŵr o fod yn her.
“Pan ydych chi’n cychwyn tymor drwy chwarae tîm sydd wedi cael dyrchafiad o’r bencampwriaeth, mae’n gallu bod yn anodd iawn,” meddai.
“Rydw i wedi eu gwylio nhw mewn nifer o gemau, ac maen nhw’n chwarae’n dda iawn. Dydyn nhw ddim yn chwarae’r gêm hir, ac mae ganddyn nhw reolwr da.”