Aberhonddu
Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu yn methu gwneud digon i gefnogi  a rhoi llwyfan i gerddorion o Gymru, yn ôl Cyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru.

Heddiw yw diwrnod cynta’r ŵyl sy’n denu jazz-garwyr o bedwar ban byd i Gymru.

“O’i gymharu â Gŵyl Jazz Ryngwladol Cork yn Iwerddon sydd wir yn cefnogi eu perfformwyr eu hunain – maen nhw wastad yn cynnwys llawer o berfformwyr Jazz o Iwerddon – dyw Aberhonddu ddim fel petai nhw’n  gwneud hynny o gwbl,” meddai Maureen Hopkins, Cyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru wrth Golwg360.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n ofnadwy o bwysig eu bod nhw’n rhoi cyfleoedd i berfformwyr o Gymru oherwydd mae cerrdorion Jazz yn cael bywyd caled iawn,” ychwanegodd.

“Mae mwy a mwy o safleoedd Jazz yn cau lawr. Mae Jazz yn ddiddordeb lleiafrifol, mae’n gelfyddyd ac fel llawer o’r celfyddydau, mae wastad am fod yn ddiddordeb lleiafrifol.

“Yn syml, does dim digon o safleoedd i gerddorion Jazz yng Nghymru chwarae ynddyn nhw.”

Fe fydd y Gymdeithas yn cynnal gŵyl fechan ym mis Hydref eleni yn Wrecsam – Gŵyl Gitar Jazz Ryngwlaodol Gogledd Cymru.

“Mae gyda ni wir ffocws ar gerddorion Jazz yng Ngogledd Cymru a dw i’n meddwl dylai Aberhonddu wneud yr un peth,” meddai Maureen Hopkins gan bwysleisio bod Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru yn gweithio gyda’r chwe sir yng ngogledd Cymru i drefnu “tua 75 o ddigwyddiadau’r flwyddyn”.