Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro yn dweud fod yr adroddiad damniol ar wasanaethau diogelu plant wedi ysgogi cynghorau eraill i ail-edrych ar eu polisïau.

 Dywedodd John Davies wrth Golwg 360 bod cynghorau sir eraill wedi bod mewn cysylltiad ers i’r newyddion dorri ynglŷn â diffygion diogelwch plant yn system addysg y sir – sy’n cynnwys 25 o achosion yn ymwneud â chyhuddiadau o gam-drin, a gafodd eu trin mewn ffordd anfoddhaol yn y bedair mlynedd ddiwethaf.

 Mae’r adroddiad, ar y cyd rhwng Estyn a’r Arolygaeth Gwaith Cymdeithasol, wedi creu “gofid ymhlith awdurdodau eraill” yn ôl John Davies.

Yn ôl Arweinydd y Cyngor mae newidiadau rheolaidd mewn polisi ar amddiffyn plant wedi gadael Awdurdod Addysg Sir Benfro ar ei hôl hi ychydig, ac mai dyna sail llawer o’r gwendidau sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad.

 “Ma’ pethe’n newid o hyd,” meddai John Davies, “tempo, agenda, fframwaith… ma’r cyfan yn newid.”

 Ac yn ôl y Cynghorydd mae’r adroddiad yn dangos y “canlyniade o beidio cadw cofnodion digon manwl” drwy gydol y broses o ddelio â chwynion.

 “Mae angen ail-edrych ar strwythur cofnodi,” cyfaddefodd wrth Golwg 360, “mae angen bod mwy siarp o ran yr offis gefen.”

‘Dim ond potensial’

Ond yn ôl Arweinydd y Cyngor Sir, mae’n bwysig cofio nad oedd “dim un plentyn wedi dod i ddrwg” oherwydd y diffygion.

“Roedd yna botensial, ac rydym ni’n derbyn hynny. Ond mae potensial ym mhopeth,” meddai.

Dywedodd ei fod hefyd yn anghytuno â’r awgrym fod y cyngor wedi rhoi’r “Awdurdod Addysg o flaen y plant.”

Ond fe gyfaddefodd ei bod hi’n bosib mai bai y cyngor oedd yr argraff honno, “gan nad ydym ni wedi bod yn rhoi digon o’r naratif yn yr adroddiade”.

‘Hyder’ yn y Cyfarwyddwyr Addysg

Mynnodd John Davies mai “cyfrifoldeb corfforaethol” oedd y diffygion a ddatgelwyd yn yr adroddiad, a bod ganddo bob ffydd yn y Cyfarwyddwyr Addysg sydd wedi bod wrth y llyw yn ystod cyfnod yr adroddiad.

Dywedodd fod ganddo “hyder yn y Cyfarwyddwr Addysg i wneud beth sy’n iawn ar ran yr unigolion,” ac ychwanegodd fod ganddo’r un hyder yn ei ragflaenydd hefyd.

Gerson Davies oedd y Cyfarwyddwr Addysg am y dair blynedd gyntaf, cyn i Graham Longster gymryd drosodd bron i flwyddyn yn ôl.

“Dyw’r diffygion yma ddim yn ymwneud ag un person, ond holl aelodau’r cyngor,” meddai John Davies.

Sicrhaodd, fodd bynnag, y byddai’r cyngor yn disgyblu petae hi’n dod yn amlwg bod unrhyw unigolyn ar fai.

“Wrth gwrs bydd e,” meddai, gan ychwanegu nad oedd unrhyw dystiolaeth o gamweinyddu wedi dod i law.

“Mae yna wahaniaeth rhwng esgeulustra a chamweinyddu,” ychwanegodd.

“Mae’n rhaid i ni gael tegwch i blant, ond rhaid cael tegwch i unigolion hefyd.”

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi anfon tîm i ymchwilio i gasgliadau’r adroddiad am ddiffygion system diogelu plant ysgolion Sir Benfro, ac mae’r cyngor wedi cael 50 diwrnod i ymateb i’r adroddiad.

Gohebydd: Catrin Haf Jones