Er gwaetha’r gwynt a’r glaw yr wythnos hon, mae un o drefnwyr Sioe Môn yn dweud iddi fod yn llwyddiant.
“Roedd y sioe reit lwyddiannus ar y gwyneb. Ond, mae’n anffodus fod y tywydd wedi newid ar y dydd Mercher,” meddai Aled Hughes, Gweinyddydd y Sioe.
Er gwaetha’r tywydd garw daeth 22,250 i’r sioe ar y dydd Mercher, meddai.
“Dyw hynny ddim yn rhy ddrwg i gysidro’r tywydd garw,” meddai.
“Roedd y dydd Mawrth yn arbennig o dda – y tywydd yn ffantastig. Rydan ni wedi cael ffigwr o 33,000 ar y dydd Mawrth a chyfanswm o 55,250 dros y ddau ddydd,” ychwanegodd.
Llai na’r flwyddyn ddiwethaf
Ond roedd y nifer yn ymweld dal 2,500 yn llai na’r flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Aled Hughes.
“Ella bod o’n rhwystro ni rhag gwneud mwy o beth oedden ni’n debygol o wneud yn y dyfodol. Mae’r arian rydan ni’n cynhyrchu yn mynd yn ôl i mewn i’r gymdeithas i wella’r cyfleusterau – gwella’r maes ac yn y blaen,” meddai.
Fe fydd cyfarfod cyngor y sioe yn cael ei gynnal mewn pythefnos, meddai.
“Bydd post mortem o’r sioe bryd hynny a thrafodaethau ar gyfer flwyddyn nesaf,” meddai Aled Hughes.
Traffig
Roedd rhai’n gorfod ciwio am o leia’ awr i gael mynediad i Sioe Môn, sy’n cael ei chynnal ar gyrion Gwalchmai.
“Roedden ni’n gwneud ein gorau i gael ceir i ffwrdd o’r ffyrdd gyntaf bosibl. Ond dw i’n deall bod dipyn o ddisgwyl ochr Llangefni i’r maes,” meddai Aled Hughes.
“Ond dydw i ddim yn gwybod beth fedrai wneud am hynny – ella y daw hyn i fyny yn y post mortem.
“Rydan ni’n trio’n gorau i wella bob man rydan ni’n meddwl bod ‘na wendid. Ond, o ran cael i’r maes ei hun – roedd o’n wyrthiol a’r Rotari wedi gweithio’n dda iawn eleni i drio cael nhw i’r meysydd parcio.”