Ffurflen Gyfrifiad 2011
Mae Sais sy’n byw yn yr Alban yn fodlon mynd i’r carchar os na chaiff lenwi fersiwn Gymraeg o ffurflen y Cyfrifiad.

Yn ôl Iain Turnbull mae’r awdurdodau wedi bygwth ei ddirwyo am fynnu cael ffurflen Gymraeg, ond mae’n gwbwl barod i fynd i’r carchar.

Mae’r dyn 63 oed wedi byw yn Stornoway ar Ynys Lewis ers saith mlynedd.

“Mae modd rhoi Urdu, Punjabi a hyd’noed Tagalog – un o dafodieithoedd Ynysoedd y Philipinau – ar y ffurflen, ond nid un o ieithoedd cynhenid Prydain,” meddai Iain Turnbull.

“Rwyf wedi anfon y ffurflen yn ôl bedair gwaith yn gofyn am ffurflen Gymraeg.”

Wedi ei eni yn Norfolk, mi symudodd Iain Turnbull i Gaerdydd yn 1970, ac mae wedi byw yn Abertridwr a Chasnewydd, cyn symud i’r Alban yn 1993.

“Mi af i garchar os oes raid,” meddai.