Y Brenin Pop
Mi fydd y seren bop Christina Aguilera yn ymuno gyda’r canwr crwn Cee Lo Green a’r hen ffefryn Motown Smokey Robinson mewn cyngerdd i gofio’r diweddar Michael Jackson.

Mae’r sioe er anrhydedd Brenin Pop y Byd yn cael ei llwyfannu yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Sadwrn, 8 Hydref.

Nid yw’r cyngerdd heb ei feirniaid, gyda brodyr Michael Jackson yn cwyno ei bod yn amhriodol cynnal y digwyddiad am ei fod yn cyd-daro ag achos Dr Conrad Murray, y meddyg sy’n wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â marwolaeth y canwr oedd hefyd yn ddawnsiwr.

Ond er bod y brodyr Randy a Jermaine Jackson yn gwrthwynebu’r sioe, mae’r fam a’r brodyr a’r chwiorydd eraill o blaid y cyngerdd.

Mae disgwyl i Leona Lewis, Craig David a JLS gynrychioli Prydain, ond nid yw’n hysbys eto a fydd unrhyw Gymry yn cael body n rhan o’r sioe.

Bydd band meibion un o frodyr Michael Jackson, sef Tito, hefyd yn perfformio.

Bu Jackson farw yn 2009 yn 50 oed, tra’n ymarfer ar gyfer cyfres o gigs yn Arena O2 Llundain.