Gary Speed
Mae’n argoeli i fod yn dorf weddol dila ar gyfer gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Caerdydd nos Fercher.

Gall Stadiwm Caerdydd ddal oddeutu 27,000, ond dywed swyddog y wasg yr FAW, Ceri Stennett, mai 7,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu hyd yn hyn, gyda deuddydd yn weddill.

“Dyw gwerthiant y tocynnau heb fod yn grêt i fod yn onest,” meddai, “Ond rydym ni’n parhau i werthu, ac fe fyddwn yn dal i’w gwerthu tan fod y gêm yn cychwyn.

“Byddwn ni’n gobeithio cael o leiaf 10,000 yno, ond eto efallai na chawn ni. Mae’n anodd dweud.

“Mae tua 7,000 wedi’u gwerthu eisoes, a dwi’n rhagweld mil neu ddau arall yn cael eu gwerthu ar y noson, felly bydd y stadiwm yn edrych fel petai tua thraean ohoni’n llawn.”

“Dydi hi byth yn hawdd llenwi stadiwm ar gyfer gemau sy’n gynnar yn y tymor fel hwn, ac wrth gwrs, mae hi’n gyfnod anodd i bobl yn ariannol, felly efallai fod hynny’n rhwystr.

“Ond rydym ni wedi bod yn hysbysebu’r gêm ers 6 wythnos, ac roeddem yn obeithiol y byddai pobl yn dod i gefnogi Cymru, ac i’w gwylio’n herio Awstralia sy’n dîm da iawn.”

“Mae’r tocynnau yn rhesymol iawn yn fy marn i, dim ond £15 yr un… ond dyna ni, os nad oes llawer yn dod ac mae’n rhaid derbyn hynny.

“Dyw o ddim yn help ein bod ni wedi pigo Stadiwm Caerdydd, ac yna mae Dinas Caerdydd yn mynd ffwrdd i Rydychen i chwarae gêm Cwpan Carling yr un noson, felly rydym ni’n colli llawer o gefnogwyr y brifddinas ar y noson honno.

“Ond unwaith yr ydych chi’n penderfynu ar leoliad ac amser, rydych chi wedi ymrwymo i hynny wedyn,” meddai.

“Mae’n rhaid i’r gemau cyfeillgar yma gael eu chwarae yn rhywle, ac felly rhaid gwneud ein gorau i werthu tocynnau a gobeithio byddwn ni wedi cael cwpl o filoedd eto erbyn Dydd Mercher.”

Ymateb Gary Speed

Bu rheolwr Cymru’n ymbil i’r cefnogwyr wneud eu gorau i fod yn gefn i’r tîm.

“Mae’n gweithio’r ddwy ffordd: os ydyn nhw’n dod i’n cefnogi, mae’n ei gwneud yn haws i ni gael canlyniadau. Yn yr un ffordd, y mwyaf fyddwn ni’n ennill, y mwyaf o gefnogwyr ddaw i’n gwylio,” meddai Gary Speed.

“Mae’n amser anodd o’r flwyddyn, oherwydd mae gan Gaerdydd gêm yr un diwrnod, ac mae’r gemau rygbi ymlaen yr wythnos honno hefyd. Ond mae’n bwysig i ni gael cefnogaeth.”