Morgan Stoddart
Mae Morgan Stoddart wedi cael llawdriniaeth wedi iddo dorri asgwrn ei goes chwith wrth i Gymru golli 23-19 yn erbyn Lloegr Ddydd Sadwrn.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi datgan y bu’r llawdriniaeth yn llwyddiannus, ond does dim syniad ar hyn o bryd am ba mor hir y bydd Stoddart allan.
Bydd asgellwr y Scarlets yn sicr o fethu ymgyrch Cwpan y Byd Cymru sy’n cychwyn ar 9 Medi.
Fe dorrodd ei goes yn ystod ail hanner y gêm, mewn gwrthdrawiad eithaf diniwed yr olwg gyda chefnwr Lloegr, Delon Armitage.
Mae’n dal i fod yn aros yn ysbyty Charing Cross, Llundain ac fe fydd yn dychwelyd i Gymru yfory.