Eisteddfod Wrecsam
Mae un o gwmnïau tacsi Wrecsam yn dweud y bydden nhw’n croesawi’r Eisteddfod genedlaethol yn ôl i’r fro y ’fory nesa’, ar ôl wythnos hynod o lewyrchus.
Yn ôl cwmni Dragon Taxis, roedd eu gyrwyr llawer mwy prysur nag arfer yn ystod yr Eisteddfod, a’r busnes wedi mwy na dyblu yn ystod wythnos gyntaf Awst.
“Roedd y gyrwyr i gyd yn hapus iawn,” meddai un o weithwyr Dragon Taxis wrth Golwg 360. Mae ganddyn nhw swyddfa wedi ei leoli gerllaw rhai o dafarndai a chlybiau nos y dref.
Yn ogystal â chael tacsis o’r maes i’r dref, meddai, “roedd pobol yn dod allan o’r clybiau ar ddiwedd y nos ac yn dod yn syth draw i’r swyddfa i gael tacsis yn ôl i’r maes.”
Dywedodd eu bod nhw wedi cael llawer llai o drafferth â’r teithwyr nag arfer hefyd. “Doedd yna dim trwbl o gwbl, a dweud y gwir,” meddai – o’u cymharu “â’r criw nos Sadwrn arferol”.
Roedd hi o’r farn fod yr ŵyl wedi gwneud cyfraniad mawr at fasnach y dref ar ddechrau Awst – cyfnod, meddai, sy’n arfer bod yn dawel i’r ardal gan fod llawer o bobol yn mynd ar wyliau.
“Fe fydden ni’n bendant yn croesawu’r Eisteddfod yn ôl i’r ardal,” meddai.
Yr un oedd neges un o dafarnau’r dref, yr Horse and Jockey, oedd yn dweud bod yr Eisteddfod wedi dod â llawer mwy o fusnes iddyn nhw.
“Fe fuodd hi’n brysur iawn o ddydd Mawrth ymlaen,” meddai Sandra Ellis, sy’n gweithio yn y dafarn .
Mae’r dafarn yn weddol agos i’r Orsaf Ganolog, lle’r oedd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal eu gigiau yn y dref.
Heb blesio pawb
Ond mae rhai o fasnachwyr y dref yn llai hapus ag effeithiau’r Ŵyl ar fusnes.
Mae papur lleol y Wrexham Leader wedi beirniadu addewidion yr Ŵyl o ddod a chynnydd sylweddol mewn masnach yn ei sgil, gydag is-gadeirydd y Siambr Fasnach leol, Alex Jones, yn dweud bod yr Eisteddfod wedi llwyddo i gadw rhai pobol o’r dref.
“Does neb wedi manteision eto, heblaw gwestai a’r rhai sy’n cynnig gwely a brecwast,” meddai.
“Mae rhai masnachwyr hyd yn oed wedi dweud wrtha i fod cwsmeriaid yn cadw draw o ganol y dref oherwydd pryderon am draffig, ar ôl yr holl heip am nifer yr ymwelwyr.”
Yn ôl Alex Jones, sydd wedi bod yn drwgdybio addewidion “hael” yr Eisteddfod i’r economi leol ers misoedd, “dw i wedi sylwi ar rai ymwelwyr yn ystod y dydd, ond yn sicr ddim yn agos i’r lefel yr oedden nhw’n ei addo”.
‘Siom’
Dywedodd Pennaeth Cyfathrebu’r Ŵyl, Gwenllian Carr, wrth Golwg 360 fod ymateb o’r fath yn siomedig.
Roedd yr ymateb gan fusnesau lleol wedi bod yn “gadarnhaol iawn” fel arall, meddai.
“Ro’n i’n siomedig i weld yr erthygl yn y Leader,” meddai Gwenllian Carr.
“Roedd tipyn o’r gwaith wnaeth y Leader i’r erthygl yn ddibynnol ar siarad â phobol ar ddydd Mawrth a Mercher yr Ŵyl, ond dydi llawer o bobol ddim yn cyrraedd nes ddiwedd yr wythnos,” meddai.
“Mae’r cyswllt r’yn ni wedi ei gael â busnesau wedi bod yn gadarnhaol iawn.”
Dywedodd bod y cynllun o gael Brecwast Busnes rhwng yr Eisteddfod a masnachwyr lleol yn gynharach yn y flwyddyn wedi bod o fudd wrth greu cyswllt rhwng yr Eisteddfod â busnesau lleol – ac i sicrhau bod croeso Cymraeg i gael i bobol wrth ymweld â Wrecsam.