Bedwyr Williams - y trebl
Mae artist o Wynedd wedi cyflawni trebl unigryw trwy ennill tair prif wobr gelf yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwaith Bedwyr Williams a gafodd ei ddewis gan eisteddfodwyr cyffredin ar gyfer gwobr Dewis y Bobl yn Wrecsam, gan ychwanegu at y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain  a Gwobr Ifor Davies am y gwaith sy’n cyfleu’r frwydr tros iaith a diwylliant Cymru.

Archesgob Caergaint, Rowan Williams, a gyflwynodd y wobr boblogaidd yn rhinwedd ei swydd yn un o ymddiriedolwyr cronfa’r artist Josef Herman, rhoddwyr yr arian.

Roedd wedi torri ar ei wyliau blynyddol i ddod i Wrecsam i gyflwyno’r wobr i’r artist a greodd weithiau oedd yn cynnwys cerfio welingtyns, tafluniwr lluniau tan ddŵr a ffotograff mawr o ddyn yn cerdded i gyfeiriad y Mynydd Mawr ger ei gartre’ yn Rhostryfan.

Barn y detholwyr

“Mae gan Bedwyr Williams ddawn i gymysgu’r traddodiadol a’r cyfoes mewn modd nad oes angen gwybodaeth rhag blaen am hanes celf,” meddai un o ddetholwyr yr arddangosfa gelf eleni, Steffan Jones-Hughes.

“Mae’n briodol bod artist o’i statws ef, sydd ag enw o bwys mewn celf gyfoes ym Mhrydain, yn cael ei gydnabod gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar yr adeg hon. Artist o Gymro yn byw yng Nghymru yn gwneud gwaith sydd yn ymwneud â Chymreictod, dieithrwch ac arwahanrwydd.”