Mae cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol, yr AC Aled Roberts, wedi dweud fod y brifwyl wedi bod yn un “llwyddiannus” a “hapus” eleni.

Mae 149,692 wedi ymweld â’r maes eleni, mwy na’r 136,933 ymwelodd â maes Blaenau Gwent y llynedd, ond y lleiaf cyn hynny ers Casnewydd yn 2004.

Ond gyda chystadlaethau cofiadwy, tywydd braf a maes hwylus mae’n Eisteddfod sy’n siŵr o aros yn y cof, meddai Aled Roberts.

“Mae hon wedi bod yn wythnos hapus iawn yma yn Wrecsam, ac rydan ni wedi bod yn ffodus iawn gyda’r tywydd y rhan fwyaf o ddyddiau,” meddai.

“Braf iawn oedd gweld enillydd ym mhob un o’r prif seremonïau’n ystod yr wythnos – a’r rhain i gyd yn ennill am y tro cyntaf, ac mae’r enillwyr yma a’u straeon hwythau wedi ychwanegu at naws gyfeillgar yr wythnos.

“Ddechrau’r wythnos, enillodd Geraint Lloyd Owen Goron wedi’i chynllunio a’i chreu gan un o’i ffrindiau pennaf, John Price.

“Ddydd Mawrth, Daniel gipiodd y Daniel gyda Daniel Davies yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel a gafodd ganmoliaeth fawr gan y beirniaid.

“Bydd seremoni dydd Mercher yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer gyda’r Archdderwydd yn gwobrwyo’i wraig, Manon Rhys , am ei chyfrol ‘Ni ein Dau’.

“Braf wedyn oedd gweld un o gyfeilyddion swyddogol yr Eisteddfod yn ennill Tlws y Cerddor ac un o’n stondinwyr, Kay Holder, yn cipio gwobr Dysgwr y Flwyddyn.

“Dyma’r tro cyntaf i Rhian Staples gystadlu yn yr Eisteddfod, ac fe lwyddodd i ennill y Fedal Ddrama gyda’i hymgais gyntaf – dipyn  o gamp, ond efallai mai prynhawn Gwener, a Seremoni’r Cadeirio oedd uchafbwynt yr wythnos.

“Gŵr ifanc 28 oed yn ennill y Gadair, Cadair a allai fod wedi’i hennill gan dri o feirdd eraill, ac yna’n cael ei gymharu gyda Dafydd ap Gwilym, a hyn oll i floeddio gan y gynulleidfa yn y Pafiliwn.  Y genhedlaeth nesaf yn dod i oed ac yn ennill Cadair Eisteddfod Wrecsam.

“Ddechrau’r wythnos manteisiodd 4500 o bobl leol ardal Wrecsam ar y cyfle i brynu dau docyn am bris un er mwyn dod i’r Maes, ac roedden ni i gyd yn falch o weld cynifer o drigolion lleol yma – a daeth nifer fawr ohonyn nhw’n ôl atom yn ystod yr wythnos.

“Mae nifer dda iawn o ymwelwyr wedi bod yma yn Wrecsam yr wythnos hon, gyda chyfanswm o bron i 150,000 yn ystod yr wythnos.

“Mae’r cynllun trafnidiaeth wedi gweithio’n arbennig o dda eleni ac mae hyn wedi hwyluso popeth.  Mae’r berthynas hawdd a chefnogol gyda Chyngor Wrecsam hefyd wedi helpu popeth dros y misoedd diwethaf wrth i ni baratoi am yr wythnos.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd yn gysylltiedig gyda’r Eisteddfod am bopeth yr wythnos hon a thros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i ni baratoi am yr wythnos.  Bu’r Pwyllgor Gwaith a’n holl wirfoddolwyr yn gweithio’n hynod brysur er mwyn sicrhau ei llwyddiant, a bu’r ardal leol yn edrych ymlaen.

“Mae’n anodd credu bod yr wythnos bron ar ben, ond fe fyddwn ni, trigolion y dalgylch a Chymru gyfan yn edrych yn ôl ar Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro gyda balchder a chydag atgofion melys iawn am y flwyddyn pan ddychwelodd ein Prifwyl i dre’r ffin.”

Nifer yr ymwelwyr

Eisteddfod Nifer yr Ymwelwyr
1995 – Bae Colwyn 167,225
1996 – Bro Dinefwr 167,931
1997 – Meirion a’r Cyffiniau 173,221
1998 – Bro Ogwr 163,321
1999 – Môn 161,725
2000 – Llanelli 162,047
2001 – Dinbych 142,609
2002 – Tyddewi 126,751
2003 – Maldwyn a’r Gororau 155,390
2004 – Casnewydd 147,785
2005 – Eryri 157,820
2006 – Abertawe 155,437
2007 – Yr Wyddgrug 154,944
2008 – Caerdydd 156,697
2009 – Y Bala 164,689
2010 – Glyn Ebwy 136,933
2011 – Wrecsam 149,692

Lluniau o’r Maes