Mae enillydd y Fedal Ddrama wedi dweud ei bod yn credu bod angen gwaith sydd “efallai ‘chydig mwy heriol yn yr Eisteddfod.”

Mae ei gwaith buddugol yn deillio o stori wir am gwpwl yn cyfarfod ar y We cyn penderfynu lladd eu hunain.

Mae angen ysgwyd byd y ddrama Gymraeg, yn ôl Rhian Staples.

“Ro’ ni’n meddwl bod y seremoni yn fendigedig. Fydden ni ddim yn ei newid o gwbl. Fi’n credu beth sydd angen yw tynnu mwy o gynulleidfa i mewn iddo fe.  O’dd y seremoni ei hun yn wych,” meddai Rhian Staples.

“Dw i ddim yn beio’r ‘Steddfod o  gwbl – mae cwmnïau ar fai hefyd – bod nhw ddim yn  dod a gwaith sydd efallai ychydig mwy heriol. Does dim rhaid i bopeth fod yn ddoniol, yn ysgafn neu’n sentimental,” meddai wrth drafod sut i ddenu cynulleidfa.

Hunanladdiad ar y cyd

Mae’r ddrama fuddugol yn canolbwyntio ar ddau gymeriad a beth sy’n digwydd pan nad yw addewidion llencyndod yn cael eu gwireddu.

Fe ddaeth y syniad i’r athrawes wrth wrando ar Radio 4 ar y ffordd i’r ysgol. Eitem fer oedd y rhaglen am ddyn a dynes a oedd wedi cyfarfod  ar wefan hunanladdiad ac wedi misoedd o gysylltu, wedi penderfynu diweddu eu taith gyda’i gilydd.

Dywedodd bod y syniad wedi bod yn “cyniwair” yn ei phen am ddau fis bron cyn iddi eistedd i lawr am “ddau ddiwrnod solid” i’w ysgrifennu.

Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu “mewn unrhyw gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol”. 

Mamet ac Albee

“Dw i’n  licio gwaith Mamet ac Albee yn fawr a’r theatr Americanaidd gan eu bod nhw mor gerddorol yn y ffordd maen nhw’n creu sgript,” meddai cyn dweud nad yw ei gwaith yn debyg i’w gwaith nhw – er gwaethaf hynny.

“Dw i’n credu bod rhythmau geiriau mor bwysig weithiau a’r hyn mae gair yn ddweud.”

Nid yw Rhian Staples yn gweld y bydd ysgrifennu’n troi’n yrfa – er ei bod yn hoff o ysgrifennu.

“Gan fod fi’n mwynhau dysgu’n Rhydywaun gymaint. Dw i’n credu mai hobi fydd e yn hytrach na gyrfa,” meddai.

Ymhlith ei diddordebau eraill mae canŵio a cherdded.