Mae un o gynghorwyr Caergybi wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gyfrannu at y gost o gynnal Gemau’r Ynys ym Môn, fel y mae hi wedi gwario i ddod â’r Olympics i Lundain.

Byddai angen gwario £10 miliwn ar ymestyn pwll nofio a gwella thrac athletau cyn medru gwahodd Gemau’r Ynys i Fôn.

Mi fyddai’r Gemau yma yn denu pobol a buddsoddiad i’r Ynys a gadael gwaddol clodwiw, yn ôl y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes o Blaid Cymru.

Yn bodoli ers chwarter canrif, nid yw Gemau’r Ynys erioed wedi bod yng Nghymru.

 “Mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi medru noddi a helpu’r Gemau Olympaidd, ac os fedrwch chi roi arian i Lundain mi fedrwch chi roi arian i Fôn,” meddai Trefor Lloyd Hughes.