Meirion Wynn Jones o Aberhonddu sydd wedi ennill Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, dan y ffug-enw Elsyl.
Gofynwyd am gyfansoddiad gwreiddiol heb fod yn hwy na 5 munud o hyd ar gyfer côr SATB yn ddigyfeiliant neu gyda chyfeiliant piano neu organ a fyddai yn adlewyrchu dathliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 150 mlwydd oed.
“Gan fod y gystadleuaeth eleni yn gofyn am ddarn a fyddai’n adlewyrchu dathliad yr Eisteddfod yn 150 mlwydd oed, penderfynais chwilota drwy nifer o raglenni’r dydd Eisteddfodau Cenedlaethol y hanner canrif diwethaf i ddod o hyd i destun addas,” meddai.
“Cywydd Croeso Dic Jones ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi a’r Cylch, 1976 a ddenodd fy llygad a’m clust. Roedd llinellau megis, ‘Doed pob celf wrth ei helfen I weld y pyrth led y pen’ a ‘ Tebyg at debyg y tynn, A thalent at ei thelyn’ yn awgrymu syniadau cerddorol o’r cychwyn cyntaf.
“Mae’r teimlad o gyffro, o ddathlu a mwynhau yn llifo trwy’r gerdd hon – yn wir, mae’n heintus. Wrth ymateb i hyn roeddwn yn awyddus i wthio fy iaith gerddorol fi fy hun i gyfeiriadau newydd.”
Ymgeisiodd wyth a beirniadwyd y gwaith gan Gareth Glyn a Guto Pryderi Puw ac roedden nhw yn cytuno fod y gwaith yn haeddu’r wobr a’r clod.
”Mae darn Elsyl,‘Dewch i ddathlu’, yn osodiad digyfeiliant o eiriau Dic Jones, ac yn ddewis cwbl ddelfrydol ar gyfer y gystadleuaeth,” meddai Gareth Glyn.
”Nodwedd o’r arddull ydy bod llinell gerddorol yn cael ei thaflu yn ôl ac ymlaen rhwng y lleisiau – ac ail-adrodd geiriau unigol yn null Brian Hughes.
”Mae’n ddarn sy’n dangos dealltwriaeth lwyr o’r arddull leisiol; gosodiad y geiriau’n gelfydd, a’r egni’n cael ei gynnal drwyddo. Mae na ryw unoliaeth fewnol i’r darn, hefo pob dim fel petai o’n tyfu o’r agoriad.
”Mi allai unrhyw gôr safonol ymgymryd â’r gwaith yma, a byddai’n effeithiol dros ben o’i lwyfannu. Dyma ddarn sy’n wir ddathliadol drwyddo, yn ymarferol ac eto’n heriol, yn cyfathrebu’n effeithiol â’r gynulleidfa, ac yn gwbwl addas ar gyfer achlysur fel dathlu penblwydd un o’n prif sefydliadau ni fel cenedl.”
Yn ogystal â derbyn Tlws y Cerddor sydd yn rhoddedig gan Urdd Cerddoriaeth Cymru unwaith eto eleni, mae’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £500 sydd yn cael ei rhoi gan Huw Lewis Yr Wyddgrug er cof am ei dad, Y Parchedig Theophilus Lewis, Rhosneigr, Ynys Mon 1873-1948, a oedd yn wreiddiol o Rosllannerchrugog.
Hefyd cynigir ysgoloriaeth gwerth £2,000 gan yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo gyrfa y cyfansoddwr buddugol.
Cefndir Meirion
Mae Meirion yn hanu o Rhewl, Llangollen, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dinas Brân ac Ysgol Cadeirlan Wells cyn ennill ysgoloriaeth i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Yno, astudiodd y piano gydag Alexander Kelly, yr organ gyda Nicholas Danby ac organ byrfyfyr gyda Naji Hakim. Pan oedd yn fyfyriwr, daliodd ysgoloriaethau organ yng Nghadeirlan Caerwynt ac Abaty Westminster.
Enillodd gystadleuaeth Organydd Ifanc y Flwyddyn Nwy Prydain ym 1990. Ar ôl dal swyddi Organydd Cadeirlan Metropolitan Lerpwl a’r Oratory yn Birmingham, dychwelodd Meirion i Gymru yn 2003 a chafodd ei benodi’n Organydd Priordy’r Santes Fair yn y Fenni.
Yn ogystal â chwarae’r organ, mae hefyd yn gyfeilydd, canwr, athro piano ac organ, a chyfansoddwr. Y mae’n gyfeilydd swyddogol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ers 2006, ac yn 2009 ymunodd â thim cyfeilyddion yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn feithrinfa dda iddo fel cyfansoddwr, ac mae wedi dod i’r brig ar nifer o’r cystadlaethau cyfansoddi.
Ar hyn o bryd mae Meirion yn Organydd Cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ac yn ei amser hamdden mae wrth ei fodd yn cyflwyno rhaglen ddwyieithog wythnosol ‘Y Casgliad Clasurol’ ar Radio Glangwili.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ar dir Fferm Bers Isaf, Wrecsam tan 6 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk.