Daniel Davies (llun S4C)
Mae sefydliad Llenyddiaeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n falch iawn bod enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen wedi manteisio ar un o’u hysgoloriaethau er mwyn cwblhau’r nofel fuddugol.

Dywedodd Gwilym Owen ar S4C neithiwr ei fod yn teimlo fod ysgoloriaeth yn galluogi awduron i “brynu’r amser i ysgrifennu” a rhoi mantais iddyn nhw dros y cystadleuwyr eraill.

Derbyniodd Daniel Davies, awdur buddugol Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ysgoloriaeth o £5,000 gan Lenyddiaeth Cymru i ddatblygu’r nofel wedi iddo gyflwyno sampl ohoni i’r panel dosrannu ysgoloriaethau.

Enillodd wobr o £5,000 ar ben hynny am ennill y gystadleuaeth. Cyhoeddwyd y canlyniad mewn seremoni brynhawn ddoe.

Ond yn ôl Lleucu Siencyn, prif weithredwr gweithredol Llenyddiaeth Cymru, mae llwyddiant Daniel Davies yn “dangos bod y buddsoddiad ynddo wedi talu ei ffordd”.

“Buddsoddi yn yr awdur ydyn ni, os ydyn ni’n edrych ar y gwaith a gweld potensial,” meddai. “Nid gwobr yw e, fel y Daniel Owen.”

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru, os yw’r gwaith heb ei gyhoeddi, ac yn disgyn o fewn un o’r genres y maen nhw’n ei dderbyn, maen nhw’n gymwys i geisio am ysgoloriaeth.

Does dim byd yn rheolau gwobr Daniel Owen sy’n dweud na ddylid cyflwyno nofel sydd wedi ei hysgrifennu ar ôl derbyn ysgoloriaeth.

Ac nid dyma’r tro cyntaf i awdur sydd wedi derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru ddefnyddio’r arian i greu gwaith er mwyn ei gyflwyno i gystadleuaeth fawr, yn ôl Lleucu Siencyn.

Daeth y nofelwraig Belinda Bower yn fuddugol yng nghystadleuaeth Saesneg y Crime Writers’ Awards gyda’i nofel ‘Blacklands’ yn 2010 – nofel yr oedd wedi ei hysgrifennu yn ystod cyfnod ei hysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru.

“Rydw i’n gobeithio y bydd y sylw i’r ysgoloriaeth yn annog pobol eraill i ymgeisio,” meddai Lleucu Siencyn.