Manon Rhys (llun S4C)
Stori fawr y diwrnod oedd fod yr Archdderwydd, T James Jones, wedi cael cyflwyno y Fedal Ryddiaith i’w wraig ar lwyfan yr Eisteddfod.

Ond er ei fod ymysg pwysigion yr Eisteddfod ni chafodd wybod o flaen llaw mai hi oedd wedi mynd a’r wobr eleni, meddai Manon Rhys.

Cafodd wybod yr un pryd a hi – pan gyrhaeddodd llythyr drwy’r post yn dweud mai ei nofel oedd wedi cipio’r wobr.

Nofel seicolegol ar ffurf ymsonau cynnil a threiddgar yw hon sydd, meddai’r beirniad, mewn modd dirodres, yn datgelu bywyd mewnol dau blentyn gydag anghenion arbennig, sy’n rhannu dealltwriaeth gyfriniol.

Mae Siriol a Dewi yn ffrindiau sy’n deall ei gilydd – yn blant arbennig gydag anghenion arbennig.

“Cyfres o leisie yw’r nofel sydd yn portreadu’r llu o broblemau sydd gan y plant yma – a hefyd yr her sy’n wynebu’r rhai sy’n eu caru nhw er mwyn cael chwarae teg iddyn nhw a chael rhyw fath o drefn ar eu bywydau bach nhw,” meddai Manon Rhys.

Dywedodd yr awdures ei bod yn creu fod pawb yn “nabod Dewi a Siriol”.

“Dw i’n credu ein bod ni gyd i yn nabod Dewi a Siriol. Maen nhw ym mhob pentref, ym mhob cymuned. Plant sydd angen dealltwriaeth a sylw arbennig. Plant nad ydi pobl yn eu deall nhw.”

‘Llunie yn ‘i ben e’

“Dydi Dewi ddim yn siarad go iawn, dim ond pethe sylfaenol. Ond, yn y nofel, mae’n siarad mewn llunie yn ‘i ben,” meddai.

“Llunie yn ‘i ben yw ei iaith e ac mae e’n gallu gwneud pob math o bethe drwy gyfrwng y llunie ’ma. Mae e’n gallu dianc i fyd nad yw pobl fel ni ddim yn gallu mynd iddo fe,” meddai.

“Y peth diddorol i mi oedd trio rhoi llais i Dewi a phawb yn meddwl nad oes llais gydag e mewn gwirionedd. Plentyn druan bach ag e. Ond ry’n ni’n gwybod oherwydd ry’n ni’n gweld ei feddylie fe, y llunie ‘ma yn ei ben e drwy gyfrwng yr hyn mae’n ddweud wrthon ni.”

Yn ôl yr awdures, roedd y nofel wedi bod yn “corddi” y tu mewn iddi ers tro.

“Mae’n cymryd amser, misoedd. Fe wnes i weithio am fisoedd arni,”  meddai cyn disgrifio’r teimlad o ennill fel un “gwych iawn”.

Cyfres o fonologau a deialogau sydd yma, meddai ac un peth sydd wedi ei helpu wrth ysgrifennu ac i lunio’r cymeriadau yw ei phrofiad o ysgrifennu sgriptiau.

Mae wedi ysgrifennu amryw o sgriptiau teledu, gan gynnwys cyfresi poblogaidd gan gynnwys Almanac, Pobol y Cwm, Y Palmant Aur a’r ffilmiau Iâr Fach yr Haf a Toili Parcmelyn.

“Mae sgriptio ar gyfer y llwyfan a theledu wrth gwrs yn help i chi glywed lleisie cymeriadau,” meddai. “Mae’n rhaid i chi glywed y bobl yn siarad.

“Mae tafodiaith yn bwysig i mi. Ry’n ni gyd yn siarad mewn gwahanol dafodiaeth, neu wahanol ddull o siarad. Mae clywed pobl yn siarad yn eu hieithwedd eu hunain yn bwysig.”

Carafanio

Pan nad yw’n ysgrifennu mae Manon Rhys yn hoffi carafanio gyda’i gŵr yn Sir Benfro.

“Dyddie hyn, mae carafán gyda ni’n Sir Benfro. Bob cyfle cawn ni, rydan ni’n mynd yno achos ma fe’n rhyw hafan arbennig i Jim a fi.

“Rydyn ni’n gallu mynd yno i fwynhau, cerdded llwybr y glannau… ond hefyd mae’n lle i ni weithio. Mae’n lap top gyda fi drwy’r amser,” meddai.