Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi cadarnhau y bore ma eu bod nhw wedi arwyddo cytundeb i brynu stadiwm CPD Wrecsam – y Cae Ras – a’u cae ymarfer ym Mharc Collier.
Dyw’r cytundeb ddim yn cynnwys unrhyw ddêl i brynu na buddsoddi yn nghlwb pêl-droed Wrecsam na thîm rygbi’r gynghrair y Crusaders.
Ond fe fydd y datblygiad diweddaraf hwn yn golygu y gall y timau barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau yn y dyfodol.
Dywedodd yr athro Michael Scott, Is-ganghellor a phrif weithredwr y brifysgol fod y pryniant wedi ei wneud er mwyn sicrhau dyfodol y stadiwm.
Rhyddhawyd datganiad gan y brifysgol yn dweud fod y dêl wedi’i gytuno ond heb ei chwblhau. Mae yna rai telerau ariannol i’w cytuno arnynt, meddai.
“Wrth brynu’r ddau gyfleuster, bwriad y brifysgol yw caniatáu i glwb pêl-droed Wrecsam ac i’r Crusaders i barhau i’w defnyddio,” meddai.
Ond dywedodd fod gan y brifysgol hefyd gynlluniau eraill ar gyfer defnydd y cyfleusterau yn y dyfodol: “Fe brynir yr asedau yng nghyd-destun datblygiad parhaol y Brifysgol gyda phrosiectau addysgol perthnasol i chwaraeon; ac ar gyfer budd y myfyrwyr a’r gymuned gyfan.”
Safbwyntiau
Dywed Huw Davies, sy’n aelod o ymddiriedolaeth cefnogwyr Wrecsam ei fod yn “hapus iawn gyda’r newyddion”.
“Dw i’n credu y bydd y cefnogwyr i gyd yn hapus efo’r penderfyniad hefyd. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r brifysgol ers amser ar y mater hwn, felly mae’n braf clywed fod y dêl wedi’i chadarnhau.”
Mae Joey Jones yn gyn-chwaraewr gyda Wrecsam, Lerpwl a Chymru, ac mae’n hyfforddwr gyda’r clwb ar hyn o bryd.
“Mae’n ffantastig,” meddai. “Mae’r coleg wedi’i seilio yn y gymuned, felly dwi’n meddwl bydd o’n gwneud lles i’r clwb.
“Dw i yn gobeithio bydd y gweddill yn cael ei sortio’n weddol fuan, oherwydd mae angen sefydlogrwydd arnom ni er mwyn gallu gwthio’r clwb yn ei flaen.”
Ychwanegodd: “Mi fyddai’n neis petai hi’n bosib i gemau rhyngwladol ddychwelyd i’r Cae Ras unwaith eto, gan fod gennym ni’r traddodiad yna yma.”
Ond a yw hi’n debygol y gall y cytundeb yma arwain at wrthdaro neu anghysondeb rhwng y clwb a’r brifysgol am ddefnydd y stadiwm yn y dyfodol?
“Efallai,” meddai Huw Davies, “ond dwi’n credu ei fod o fyny i ni i redeg y clwb yn iawn. Dwi’n meddwl bydd y brifysgol yn hapus cyn belled a bod y cwmni sy’n rhedeg y clwb ar eu tir nhw yn gwneud hynny yn y modd cywir.
“Dw i’n gwybod fod yna bobl o fewn y brifysgol sydd yn frwdfrydig o blaid y clwb pêl-droed, felly dydw i ddim yn rhagweld unrhyw drafferthion o ran hynny.”
Pleidleisio ar y gwerthiant
Datgelwyd yr wythnos ddiwethaf fod oddeutu 115 o staff, gan cynnwys chwaraewyr, y clwb heb dderbyn eu cyflogau, ac fe orfodwyd y clwb i ganslo dwy gêm gyfeillgar.
Cyhoeddodd y perchnogion, Geoff Moss ac Ian Robert, nad oedd ganddynt arian yn weddill i redeg y clwb, gan ryddhau ffigyrau’n dangos eu bod wedi buddsoddi £2 filiwn yn y clwb dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn y cyfamser, mae ymddiriedolaeth y cefnogwyr yn dal i geisio cwblhau’r trafodaethau i brynu’r clwb ac maent yn obeithiol y gall penderfyniad y brifysgol i brynu’r Cae Ras wneud hynny’n haws.
Eglura Huw Davies: “Rydym ni eisiau prynu’r clwb cyn gynted â phosib yn fy marn i. Mae cyfarfod cyffredinol ar gyfer holl aelodau’r ymddiriedolaeth (tua 1,300 ohonynt) i fod i gymryd lle mewn pythefnos, ac fe fydd cyfle i bawb bleidleisio ‘ie’ neu ‘na’ i’r cytundeb i brynu’r clwb.”
Y tymor newydd
Mae’r gynghrair wedi bod yn awyddus i gael cadarnhad gan y clwb y bydd modd parhau gyda rhaglen gemau’r tymor.
Dywed Joey Jones ei fod yn obeithiol am y tymor sydd i ddod: “Mae angen sortio hyn a setlo popeth, er mwyn gallu canolbwyntio ar y pêl-droed. Dw i’n meddwl fod gennym ni’r chwaraewyr i faeddu unrhyw un yn y gynghrair.
“Dwi’n meddwl bydd Dean (Saunders) a’r chwaraewyr yn hapus i gael canolbwyntio ar y pêl-droed. Pan ydych chi ar y cae yna am 90 munud, fyddwch ch ddim yn meddwl am unrhyw beth arall.”
Mae disgwyl i ymgyrch ddiweddaraf Wrecsam yn y Blue Square gychwyn yn y Cae Ras yn erbyn Caergrawnt ar Awst 13eg.