Mae Trinidad a Tobago wedi cadarnhau fod eu tîm ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn mynd i fod yn aros yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod paratoi.

Fe fuodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cwrdd â Chomisiynydd y wlad, Garvin Edward Timothy Nicholas, ac fe gafodd memorandwm ei arwyddo gan y ddwy wlad yn cadarnhau’r penderfyniad.

Dywedodd y tîm Caribïaidd fod y penderfyniad wedi’i seilio ar ddarpariaeth Cymru a Chaerdydd o gyfleusterau chwaraeon o’r safon uchaf.

Byddent yn cael eu cefnogi gan staff profiadol sydd wedi gweithio gyda thimau Olympaidd ers blynyddoedd. Dywedant eu bod yn hyderus eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir.

“Mae’r berthynas rhwng y ddwy wlad eisoes yn gryf iawn, ac fe fyddwn ni’n fuan yn gwahodd tîm Olympaidd Trinidad a Tobago i’n prifddinas wrth iddynt baratoi ar gyfer gemau 2012,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Mae eu penderfyniad yn dangos fod gan Gymru gyfleusterau o’r safon uchaf, a’r isadeiledd y mae timau Olympaidd ei eisiau”