Mae criw o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o ardal Wrecsam yn gobeithio prynu tafarn yng nghanol y dre’ i’w throi’n ganolfan gymdeithasol Gymraeg.
Fe ddatgelodd cylchgrawn Golwg y bydd ymgyrch yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod i sefydlu menter gydweithredol a chodi arian i brynu hen dafarn y Seven Stars.
Y nod fyddai ei throi’n dafarn Gymraeg gyda chaffi a llefydd cyfarfod a throi’r ystafelloedd uwchben yn swyddfeydd i’w gosod.
Mae cynllun busnes eisoes wedi’i greu a’r cam cynta’ fydd codi tua £200,000 i brynu’r adeilad rhestredig a’i baratoi.
“Y nod ydi cael rhywbeth parhaol yn Wrecsam i ddilyn yr Eisteddfod,” meddai un o’r criw, y cynghorydd, Marc Jones.
Y bwriad yw codi’r arian trwy fuddsoddiadau o rhwng £100 ac £20,000; mae’r criw wedi bod yn cael cyngor gan Ganolfan Gydweithredol Cymru ac fe fydd prospectws yn cael ei gyhoeddi o fewn y dyddiau nesa’.
“Mae’n rhaid codi pres reit handi. Fydd rhaid codi’r pres erbyn diwedd mis Awst os yden ni am lwyddo,” meddai Marc Jones.
Y stori’n llawn a manylion y cynllun yn Golwg yr wythnos hon