Planhigion canabis
Mae heddlu Abertawe wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi cael rhagor o lwyddiant wrth fynd i’r afael â phroblem delio cyffuriau yn y ddinas.

Dros yr wythnos diwethaf mae swyddogion wedi meddiannu gwerth mwy na £200,000 mewn cyffuriau ac arian parod, yn ogystal â 600 o blanhigion canabis.

Cafodd pedwar dyn – 30, 34, 43 a 51 oed – eu harestio yn ystod un cyrch ar Stryd Pentregethin a’u cyhuddo o ddarparu cyffuriau.

Mae dwy ddynes, 27 a 43 oed, hefyd wedi eu harestio ac wedi eu rhydau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu ymchwilio.

Daethpwyd o hyd i gyffuriau gwerth £150,000 ac arian parod werth £40,000 yno.

Mewn cyrch ar wahân daethpwyd o hyd i 500 o blanhigion canabis mewn tŷ ar Stryd Vicarage, Treboeth. Cafodd dyn 24 oed ei gyhuddo o feddu ar gyffur anghyfreithlon.

Daethpwyd o hyd i tua 100 o blanhigion canabis eraill mewn adeilad ar Stryd y Brenin Edward, Brynmill. Mae’r ymchwiliad yn parhau.

Cafodd dyn 30 oed o Lundain ei arestio a’i gyhuddo o feddu ar gyffur dosbarth A mewn achos ar wahân.

“Mae ein llwyddiant dros yr wythnos diwethaf yn tanlinellu ein hymrwymiad i dargedu unigolion sy’n delio cyffuriau ac sy’n creu gofid yn ein cymunedau,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Simon Davies.

“Hoffwn ni ddiolch i bobol leol am eu cefnogaeth a galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau neu unrhyw droseddau eraill yn eu cymuned i gysylltu gyda ni.”