Cerddorion dicllon yn uned y BBC
Fe gafodd uned y BBC ar faes yr Eisteddfod ei meddiannu dros dro gan gerddorion wrth iddyn nhw brotestio am brinder cerddoriaeth werin ar Radio Cymru.

Maen nhw’n cyhuddo’r cyfryngu – gan gynnwys S4C – o fod ag “obsesiwn” am ganu pop ac o “anwybyddu” eu traddodiadau eu hunain.

Roedd eu llefarydd hefyd yn cyhuddo’r Eisteddfod Genedlaethol o fod ag obsesiwn â chanu clasurol.

Roedd tua hanner dwsin o gerddorion traddodiadol yn canu yng nghyntedd yr uned ond fe awgrymodd y BBC nad oedd gan wrandawyr ddigon o ddiddordeb mewn canu gwerin.

‘Mwy o Saesneg na gwerin’

Yn ôl llefarydd y cerddorion, Ywain Myfyr, roedd y canwr Arfon Gwilym wedi gwneud arolwg o ddau gyfnod o ddarlledu ar Radio Cymru ac wedi cofnodi mai 3% o’r gerddoriaeth oedd o’r traddodiad gwerin ac 13% yn Saesneg.

“Os ewch chi i’r Alban a gwrando ar BBC Alba neu i Iwerddon a gwrando ar y radio, mi fyddwch chi’n ymwybodol bod eu traddodiad yn cael parch. Dydi hynny ddim yn wir yng Nghymru.

“Mae grwpiau gwerin o Gymru yn llenwi gwyliau ar draws y byd ond dydyn nhw ddim yn cael sylw gan y cyfryngau yng Nghymru.”

Ateb y BBC

Ar ôl y brotest, fe ddaeth datganiad gan Radio Cymru.

“Mae BBC Radio Cymru yn chwarae pob math o gerddoriaeth ar ein gwahanol raglenni ac yn amlwg rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn darparu rhaglenni fydd yn apelio at ystod eang o wrandawyr.

“Mae cerddoriaeth draddodiadol yn cael lle yn achlysurol ar y gwasanaeth, cerddoriaeth werin draddodiadol a hefyd cerddoriaeth werin fwy cyfoes.

Rydym yn gwneud llawer o waith ymchwil cynulleidfa ac mae hynny’n rhan o’r ystyriaeth wrth geisio cynhyrchu rhaglenni.

“Mae hi’n anodd os nad yn amhosib i blesio pawb trwy’r amser ond mae’n rhaid i Radio Cymru ddarparu rhaglenni fydd yn apelio at Gymry Cymraeg o wahanol oedrannau, sydd â diddordebau amrywiol.”