Mae Heddlu Caerdydd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynion ddwyn medalau ym Mhenylan, Caerdydd.

Mae e-fit o ddau ddyn wedi’u rhyddhau wrth i swyddogion yr heddlu barhau i ymchwilio i’r digwyddiad ar Ddydd Gwener, 10 Mehefin.

Rhwng 11am a 3pm fe aeth dyn fynd gartref dynes 92 mlwydd oed yng ngerddi Waterloo a chynnig glanhau ei gwter.

Yna, fe ddaeth ail ddyn a chymryd arian gan y ddynes ar ôl dweud eu bod nhw wedi gorffen y gwaith.

Yn ddiweddarach sylweddolodd y ddynes fod tair medal ac arian wedi’i ddwyn. Roedd y medalau yn rhai Royal Artillery, Auxillary Territorial ac un medal rhyfel.

Gwybodaeth

“Mae’r ddynes wedi torri ei chalon nad yw’r medalau wedi dod i law ac wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni,” meddai Phil Dallyn o’r Heddlu.

“Wnaeth hi ddim rhoi gwybod beth oedd wedi digwydd nes naw diwrnod yn ddiweddarach.

“Roedd hi’n teimlo’n rhwystredig gyda’i hun fod y medalau wedi’u dwyn.”

Dywedodd yr Heddlu eu bod nhw’n bwriadu gwneud “popeth o fewn eu gallu” er mwyn sicrhau fod y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dal.

Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y medalau i gysylltu â nhw ar 029 2077 4233 neu’n ddi-enw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.