Dave Prentis, Unison
Fe allai diffoddwyr tân streicio ar ôl i arweinwyr undebau ymosod yn llym ar benderfyniad y Llywodraeth i gyhoeddi cynlluniau i ddiwygio pensiynau.
Dywedodd yr undebau fod Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi’r manylion wrth i drafodaethau rhyngddyn nhw a’r undebau fynd yn eu blaen.
Mae arweinwyr athrawon, nyrsys, gweithwyr sifil, diffoddwyr tân a gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus wedi beirniadu gweinidogion.
Dyma’r newidiadau yn fras:
• Bydd gweithwyr sy’n ennill £25,700, gan gynnwys nyrsys ac athrawon, yn gorfod talu £10 ychwanegol bob mis at eu pensiwn
• Bydd gweithwyr sy’n ennill £130,000, gan gynnwys ymgynghorwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn gorfod talu £152 ychwanegol bob mis at eu pensiwn
• Bydd gweision sifil yn gorfod cyfrannu rhwng £20 a £140 yn rhagor bob mis
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, fod y Llywodraeth eisiau dod o hyd i “falans teg” rhwng beth mae gweithwyr a threthdalwyr yn ei gyfrannu at bensiynau yn y sector gyhoeddus.
Ychwanegodd y bydd y rheini sydd ar y cyflogau isaf yn cael eu diogelu, a’r rheini sydd ar y cyflogau uchaf yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r baich.
Bydd 750,000 o weithwyr ddim yn talu unrhyw beth yn ychwanegol a bydd un filiwn arall yn talu 1.5% ychwanegol.
Serch hynny fe fydd y newidiadau yn erbyn tua £1 biliwn i’r Llywodraeth.
Ond dywedodd arweinwyr athrawon fod gweithwyr wedi eu “brawychu” gan y cyhoeddiad.
Ychwanegodd Dave Prentis o undeb Unison fod y cyhoeddiad yn bygwth trafodaethau oedd yn mynd rhagddynt.
“Rydyn ni’n credu ein bod ni wedi gweld cynnydd, yn araf bach,” meddai. “Ond mae’r Llywodraeth sydd ddim i weld yn deall y gair ‘trafod’ wedi peryglu’r trafodaethau.
“Rhaid i’r llywodraeth ddechrau cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a rhoi’r gorau i drin y trafodaethau fel ryw fath o gêm iard ysgol.”