Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Mae un o gynghorwyr Tref Wrecsam wedi dweud fod dyfodol clwb pêl-droed y dref hefyd yn y fantol yn dilyn penderfyniad perchnogion clwb rygbi’r Crusaders i droi cefn ar y Super League.
Cyhoeddodd clwb rygbi’r gynghrair y Crusaders ddoe eu bod nhw wedi tynnu eu cais yn ôl am ymestyniad i’w trwydded i gael chwarae yn y Super League am y tri thymor nesaf.
Dywedodd perchnogion y tîm o Wrecsam, Geoff Moss ac Ian Roberts, fod eu sefyllfa ariannol yn golygu nad oedd hi’n ymarferol nac yn gynhaliol i’r clwb barhau i gystadlu yn y Super League.
Mae dyfodol y clwb yn aneglur a dyw’r effaith y bydd y penderfyniad yn ei gael ar y clwb pêl-droed, sy’n rhannu’r un stadiwm, ddim yn amlwg eto.
Dywedodd y cefnogwr a’r cynghorydd o Wrecsam, Marc Jones, ei fod yn “hynod siomedig fod [y perchnogion] wedi gwneud rhywbeth mor dan din”.
“Mae’r penderfyniad yma’n effeithio’r chwaraewyr, y staff, y cefnogwyr a’r gymuned gyfan.
“Ond mae o hefyd yn effeithio ar y clwb pêl-droed ac ymdrechion ymddiriedolaeth y cefnogwyr i sicrhau dyfodol i’r clwb pêl-droed a’r stadiwm.
“Mae’r Cae ras dan fygythiad nawr oherwydd eu bod nhw wedi colli ffynhonnell ariannol hollbwysig.”
Dywedodd ei fod, yn gynghorydd, yn “cymell y Cyngor i ymyrryd ar frys, am fy mod i’n rhagweld siawns go iawn all y Clwb pêl-droed eu dilyn nhw.”
Mae’n pryderu y byddai hynny’n golled anferthol i’r gymdeithas a’r economi leol.
‘Torri eu calonnau’
Dywedodd Gareth Thomas, cyn-gapten Cymru sydd ar hyn o bryd yn chwarae i’r Crusaders, fod y penderfyniad yn peryglu “calon Rygbi yng Ngogledd Cymru.”
“Roeddwn i’n siarad gyda phlant heddiw, ac roedden nhw i gyd wedi torri eu calonnau am eu bod nhw’n dilyn y tîm ac yn edmygu’r chwaraewyr,” meddai.
Mae nifer o sêr y Crusaders, yn cynnwys Gareth Thomas, hefyd yn ofni na fyddent yn cael eu talu am weddill y tymor cyfredol.
“Dyw’r bois ddim yn gwybod dim,” meddai Gareth Thomas.
“Does neb yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd ac mae nifer o gwestiynau gennym ni, ond mae’r perchnogion ar eu gwyliau.”
Roedd Thomas, chwaraewr mwyaf adnabyddus y clwb, yn gofalu i beidio â dweud gormod am ei ddyfodol ei hun gyda’r clwb er ei fod newydd arwyddo cytundeb blwyddyn ychwanegol gyda’r clwb.
“Mae’n anodd ar hyn o bryd. Mae Rod Findlay, y prif weithredwr, wedi gofyn i ni chwarae gweddill y tymor. Ond does dim sicrwydd y byddwn ni’n cael ein talu.”
Bydd y Crusaders yn chwarae yn erbyn y Wakefield Trinity Wildcats ar Ddydd Sul.