Nathan Brew
Yn ei flog cyntaf i Golwg360.com mae Nathan Brew yn trafod ei ymddeoliad, llwyddiant ei frawd a chlwb pêl–droed Abertawe.

Mae Nathan Brew yn gyn chwaraewr rygbi gyda’r Dreigiau, Scarlets a Chymru. Mae bellach wedi ymddeol o’r lefel uchaf, ond yn dal i chwarae i Gastell Nedd ac yn ddyn busnes llwyddiannus gyda’i fwyty Papa Sanchos yn Abertawe a chwmni Sgil Cymru. Mae hefyd wedi cytuno i ffeindio amser yn ei ddyddiadur prysur i ysgrifennu blog rheolaidd i Golwg360 – dyma’r cyntaf…

Mae dechrau unrhyw dymor newydd o rygbi yn amser cyffrous, gan edrych ymlaen at y cystadlu sydd i ddod. Y tymor diwethaf, roedd gen i reswm ychwanegol i fod yn gyffrous. Ar ôl gorffen chwarae i Gastell Nedd, roeddwn  wedi symud i’r Dreigiau, ac i chwarae yn yr un tîm ag Aled (a gobeithio cael y cyfle i’w atgoffa pwy yw’r brawd mawr yn y teulu!)

Yn anffodus, ni chefais y cyfle i wneud hyn. Oherwydd sawl anaf gwahanol yn ystod y tymor, dim ond tair gêm yn unig y llwyddais i’w chwarae i’r Dreigiau. Wedi gêm ola’r tymor ym mis Ebrill, roedd yn rhaid i mi wneud y penderfyniad anodd i ymddeol o rygbi proffesiynol. Dyw hyn byth yn amser hawdd na hapus i unrhyw chwaraewr, ond o leiaf nawr dwi’n gallu canolbwyntio ar y busnesau gwahanol sydd gen i.

Wedi siarad gyda rhai o’r chwaraewyr yng ngharfan Cymru, efallai fy mod wedi cael dihangfa wrth ddewis ymddeol. Ar ôl clywed am y rhaglen cryfder a ffitrwydd mae’r bechgyn yn mynd trwyddo allan yng ngwlad Pwyl, dwi’n credu fod rhedeg dau fusnes llwyddiannus yn llai o waith! Wedi dweud hyn, dwi’n edrych ymlaen at ddechrau’r Cwpan y Byd, ac yn siŵr bydd y garfan gyfan wedi paratoi yn drylwyr ac yn awyddus i ddechrau erbyn i’r gêm gyntaf gyrraedd yn erbyn Awstralia ar 13 Awst.

Ar nodyn mwy positif, roedd tymor Aled yn un llwyddiannus iawn. Cafodd y fraint eleni o ennill chwaraewr y flwyddyn i’r Dreigiau ac gan Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru. Yr anrhydedd mwyaf i unrhyw chwaraewr yw pan fydd eich cyd-chwaraewyr yn pleidleisio drosoch fel chwaraewr y flwyddyn.

Ar ôl tymor ardderchog, mae hyn yn haeddiannol, wedi cadarnhau safle Aled fel un o chwaraewyr gorau’r gynghrair, a’r wlad. Gyda’i ymroddiad, ac o dan arweiniad Darren Edwards, hyfforddwr ifanc y dreigiau, mae gan Aled y cyfle i gamu mewn i safle Shane Williams yn nhîm Rygbi Cymru, petai Shane yn penderfynu ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd. Mae’n dangos taw nid dim ond dawn yn unig sy’n bwysig mewn gyrfa ym myd chwaraeon – mae agwedd dda ac ymroddiad Aled wedi ei helpu i gyrraedd brig y gêm. Hynny ac ychydig help o’i frawd mawr wrth gwrs!

Mae sawl person wedi dweud fod dyrchafiad Abertawe i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf yn tynnu sylw i ffwrdd o’r rhanbarthau a rygbi Cymru. Dwi ddim yn cytuno. Yn fy marn i, gyda’r cynnwrf a chyffro sy’n dod law yn llaw â Chwpan y Byd, dwi’n gweld rygbi Cymreig, a’r rhanbarthau gwahanol, yn mynd o nerth i nerth.

Mae’n bosib gweld esiampl o hyn wrth edrych ar y nifer o wersylloedd hyfforddi rygbi i blant sy’n cael eu cynnal gan gwmnïau fel Sgil Cymru dros yr haf. Yn ôl y sôn, mae’r niferoedd sy’n mynychu gwersylloedd fel hyn wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed.

Gallwch weld y math o wersylloedd sydd ar y gweill gennym ni ar wefan Sgil Cymru.