Clawr yr hunangofiant newydd
Mae Meic Stevens yn corddi’r dyfroedd unwaith eto gyda chofnod di-flewyn-ar-dafod o’i fywyd dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf – Mas o ‘Ma.
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, dydd Iau’r wythnos nesaf, a bydd Golwg 360 yn cyfresu’r hunangofiant dros y dyddiau nesaf.
Mae’r hunangofiant yn siarad am y tristwch o golli un o’i gariadon i alcoholiaeth ac o ddarganfod 76 o boteli fodca gwag o dan y gwely, yn ogystal â chael ei arestio a’i gyhuddo o fygwth saethu barmed am iddi wrthod gwerthu potel o win iddo.
Mae’r cerddor hefyd yn siarad yn blaen am ei berthynas â’r gantores Lleuwen Steffan, chantores ddeugain mlynedd yn iau nag ef.
“Ddylwn i ddim fod wedi mynd i’r gwely gyda hi yn y lle cynta, heb sôn am gyd-fyw!” meddai yn ddi-flewyn-ar dafod.
“Roedd y ddau ohonon ni’n cwmpo mas fwyfwy o hyd, a’r un ohonon ni’n hoff o wrthdaro a dadle, yn enwedig hi. Drama queen oedd hi, yn gwneud ei gore glas i osgoi unrhyw wrthdaro.
“Roedd hi’n dal i fynnu ei bod hi mewn cariad â fi ond, yn y dirgel, cynllunio i’w gwadnu hi am Lydaw ar arian nawdd Cyngor y Celfyddydau roedd hi.
“Felly, yn y diwedd, dyma gytuno’n gyfeillgar fod ein carwriaeth yn mynd i’r gwellt a bod rhaid iddi ffeindio cariad arall – Llydawr iau na fi. Dyna oedd y cadarnhad roedd ei angen arni, gwbod ei bod hi’n rhydd a mod i’n rhoi sêl bendith iddi ffwrcho pwy bynnag oedd hi moyn.”
Beirniadu’r BBC
Mae’r cerddor sydd bellach yn byw yn Dyffryn Comox ar Ynys Vancouver hefyd yn barod i ymosod ar y ‘crachach’ Cymreig sydd ddim, yn ei dyb ef, yn deall y celfyddydau.
“Ches i erioed fy nerbyn gan grachach y BBC a’r Taffia (pwy bynnag ydyn nhw?!): roedd carfanau yng Nghymru – ac i raddau maen nhw yno o hyd – yn gwneud eu gore i bardduo fy enw trwy ledaenu clecs celwyddog amdana i,” meddai.
“Mae eu gor-ddweud llawn gwatwar, eu penderfyniade cul, eu diffyg dawn greadigol wedi rhoi’r sbroc yn olwyn unrhyw gynnydd artistig erioed.
“Mae diffyg diddordeb anhygoel hefyd ym myd y celfyddyde yng Nghymru – diffyg ymwybyddiaeth – yn arbennig yn y byd cerdd, byd nad ydyn nhw, a siarad yn gyffredinol, byth yn ei gymryd o ddifri.
“Maen nhw’n saff yn eu swyddi bras, yn cropian ar eu cyflymdra’u hunain (fel angladd malwen ar darmac gwlyb!), yn barod i saethu unrhyw beth sy’n symud yn gynt na hynny, neu unrhyw syniad nad ydyn nhw’n ei ddeall.”
Bydd Golwg 360 yn cyfresu’r hunangofiant o yfory ymlaen.