Mae’r gwasanaethau brys wrthi’n gwneud yn siŵr nad oes gwendid adeileddol yn un o dwneli’r M4 heddiw ar ôl i lori fynd ar dân y tu mewn iddo.

Dechreuodd y fflamau am 8.30am gan achosi tagfeydd traffig anferth ger un o dwneli Bryn-glas y draffordd.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y tân bellach wedi ei ddiffodd a bod peirianwyr adeileddol wrthi’n archwilio’r twnnel i weld faint o ddifrod achosodd y fflamau.

Maen nhw wedi annog teithwyr i hewl brysur sydd ar gau o hyd rhwng cyffyrdd 24 a 26.

Ni aeth yr un cerbyd arall ar dân a dihangodd gyrrwr y lori heb gael ei anafu, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bellach wedi cadarnhau fod y tân wedi ei ddiffodd ac fe fyddwn nhw’n gadael cyn bo hir,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

“Fe fydd peirianwyr adeileddol nawr yn mynd i mewn i’r twnnel gorllewinol er mwyn gweld faint o ddifrod sydd yno.

“Mae’r tagfeydd traffig yn bryder mawr erbyn hyn ac rydyn ni’n annog unrhyw yrwyr sy’n bwriadu defnyddio’r M4 yn ne ddwyrain Cymru i ystyried ei osgoi.

“Er ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi gwybod i yrwyr beth sy’n digwydd, rydyn ni’n diolch am eu cydweithrediad a’u hamynedd wrth i ni geisio lleddfu’r tagfeydd ac ail-agor twneli.”