Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Mae perchennog CPD Wrecsam, Geoff Moss, wedi cyhoeddi y bydd y Cae Ras ynghyd a’u cyfleusterau ymarfer ym mharc Collier yn cael eu gwerthu i Brifysgol Glyndŵr gerllaw.

Cafodd y cytundeb ei gadarnhau gan Moss wedi i Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr – sy’n dal i drafod â’r perchnogion am drosglwyddiad y clwb – ddatgan na fyddai Moss a’i gydberchennog Ian Roberts yn fodlon gwerthu dau brif ased y clwb iddynt.

Ond mynnodd Moss mai’r unig reswm y maent yn eu gwerthu i’r brifysgol yw gan nad oes gan yr Ymddiriedolaeth yr arian sydd ei angen.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu prynu’r clwb eu hunain am £1. Yna fe fyddai yn rhaid iddyn nhw ddod i gyrundeb â’r brifysgol i gael defnyddio’r Cae Ras.

Mewn datganiad i’r wasg, dywedodd Moss: “I osgoi unrhyw ddryswch, mi fyddai wedi bod yn well gennym werthu i’r ymddiriedolaeth – ond does ganddyn nhw ddim yr arian i’w prynu.

“Ac yn ail – y nhw a nhw yn unig gyflwynodd y Brifysgol fel un o’u partneriaid yn y trafodaethau.”