Dim llwyddiant i Legg
Mae anturiaethau Llanelli a’r Seintiau Newydd yng nghynghrair Ewropa wedi dod i ben am flwyddyn arall.

Fe drechwyd Llanelli 5-0 gan Dinamo Tbilisi – un o glybiau mawrion dwyrain Ewrop fu’n bencampwyr y ‘Cup Winners Cup’ yn 1981.

Roedd y bwlch mewn safon yn amlwg neithiwr yn stadiwm Genedlaethol Boris Paichadze, wrth i Tbilisi guro Llanelli ym mhob agwedd o’r gêm.

Fe sgoriodd yr asgellwr Sbaenaidd, Xisco, ddwywaith wrth i Tbilisi wrthdroi mantais un gôl Llanelli yn y cymal gyntaf yr wythnos ddiwethaf. Byddent yn awr yn symud ymlaen i wynebu KR Reykjavik o Wlad yr Iâ.

Roedd yr ornest fwy neu lai ar ben wedi 7 munud wrth i Xisco fanteisio ar esgeulustod amddiffynwyr Llanelli i rwydo heibio i Ashley Morris.

Roedd y Cochion i weld yn nerfus amodau poeth a gyda thorf o 18,000 yn eu gwylio. Roeddynt ddwy gôl ar ei hol hi ar ôl deng munud a tair o fewn hanner awr.

Sgoriodd Xisco unwaith eto wedi’r egwyl cyn i Carles Coto selio’r fuddugoliaeth (sgôr gyfanredol 6-2) a sicrhau y byddai Tbilisi’n cael dyrchafiad i rownd nesaf y gystadleuaeth.

Wedi’r gêm dywedodd rheolwr Llanelli, Andy Legg: “Aeth pethau ddim fel oeddem ni wedi’u bwriadu gan i ni adael dwy gôl i mewn yn gynnar. Roeddem ni’n gobeithio trio’i chadw hi’n gêm dynn, ond roedd symudiad Dinamo yn rhy dda i ni.”

“Maen nhw’n dîm proffesiynol llawn amser, ac fe wnaethon nhw gosbi ein camgymeriadau unigol gwirion. Roedd hon yn wers bwysig i’r chwaraewyr am sut i chwarae oddi cartref mewn stadiwm fawr fel yma.”

TNS v FC Midtjylland

Fe gurodd FC Midtjylland y Seintiau Newydd o 5-2 (8-3) yn yr un bencampwriaeth neithiwr hefyd. Byddent yn wynebu Vitoria, o Bortiwgal, yn y rownd nesaf.

Stori debyg oedd yma i un Llanelli. Roedd y Seintiau ar ei hol hi o 3-1 wedi’r cymal cyntaf, ond roedd yr ornest drosodd wedi i’r clwb o Ddenmarc daro ddwywaith o fewn 24 munud.

Roedd dwy gôl Alex Darlington i’r Cymry yn rywfaint o gysur, ond roedd Midtjylland yn rhagori drwy gydol y gêm, ac yn chwarae pêl-droed o safon uwch na chynrychiolwyr Uwch-Gynghrair Cymru.