Bu’n rhaid dod a gêm 40 pelawd Morgannwg yn erbyn Essex neithiwr i ben oherwydd glaw. Dyma’r ail o gemau Morgannwg i gael ei chanslo yn y bencampwriaeth yma yn ystod y pedwar diwrnod diwethaf.
Mae’n arbennig o anlwcus y tro hwn wrth ystyried fod Morgannwg wedi cael dechreuad da ac roeddynt yn rheoli’r gêm pan fu rhaid galw’r chwaraewyr i mewn a dod a’r ornest i ben.
Roedd batiwr agoriadol Morgannwg, Gareth Rees, wedi eu rhoi mewn safle cryf wedi ei 101 rhediad gwych, ac fe gyrhaeddodd y Dreigiau gyfanswm o 251-8 o 38 pelawd.
Fe gafwyd egwyl gynnar oherwydd y glaw, ac wedi dychwelyd fe ostyngwyd y targed i 133 o 15 pelawd i Essex oherwydd y tebygrwydd y byddai mwy o law i ddod.
Fe gafodd Simon Jones, y bowliwr cyflym, ddwy wiced i adael Essex ar 53-2 wedi 6.2 pelawd cyn i’r glaw ddisgyn eto.
Bydd Morgannwg yn siŵr o deimlo’r anghyfiawnder wedi iddynt dderbyn 1 pwynt yn unig am eu hymdrech wedi’r cyfan.
Mae Essex yn yr ail safle yng nghrŵp C y bencampwriaeth. Mae Morgannwg yn aros yn bedwerydd.