Glyn Wise ar Big Brother
Mae seren y sioe deledu Big Brother, Glyn Wise, wedi siarad am y tro cyntaf am yr iselder a ddioddefodd ar ôl gadael y rhaglen bum mlynedd yn ôl.
Dywed Glyn Wise iddo gael cyfnodau o fethu â wynebu’r byd pan oedd yn aros am ddyddiau yn ei fflat yng Nghaerdydd. Roedd hynny flwyddyn ar ôl iddo ddod yn ail yn y gyfres Big Brother.
“Ges i iselder ar ddechrau 2007 a dw i’n meddwl y gwnaeth o bara blwyddyn,” meddai Glyn Wise wrth Golwg.
“Wnes i gael chwe mis, syth allan o’r Tŷ, lle o’n i’n wyllt efo gwaith. Do’n i ddim gwirioneddol angen help, do’n i ddim gwirioneddol angen neb, jyst gwaith, gwaith, gwaith. A phan ydach chi’n brysur dydach chi ddim yn poeni.”
“Yn fwy na dim byd, roedden ni wedi cael popeth yn rhy fuan a doedden ni ddim wedi gweithio amdano fo. Ro’n i ar bob un sioe dan haul, yn hyrwyddo pethau Plaid Cymru, yn gweithio ym mhob man. Yna, pan ry’ch chi’n disgyn allan ohono fo, dyna ydi’r amser chi’n sylweddoli pwy yw eich ffrindiau chi.
“Doedd Llundain ddim eisio eich nabod chi ddim mwy. Ro’n i’n gweithio ddwy noson yr wythnos, yna ro’n i yn aros yn y tŷ ddiwrnodau eraill. Do’n i ddim yn gwybod beth i wneud efo’n hun.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 21 Gorffennaf