Pafiliwn pinc Wrecsam
Mae tocynnau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn gwerthu’n “arbennig o dda” dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd trefnydd y brifwyl wrth Golwg 360 y bydd y cynnig dau docyn am bris un i bobol lleol ar y penwythnos cyntaf yn dod i ben yfory.

Gydag ychydig dros wythnos i fynd cyn i’r Eisteddfod gychwyn, mae Maes y Brifwyl oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam bron yn barod gyda’r Pafiliwn Pinc yn ei le.

‘Braf’

“Mae’r Maes ar Fferm Bers Isaf wedi bod yn un braf iawn i weithio arno fo dros yr wythnosau diwethaf,” meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd  yr Eisteddfod.

“Mae’n braf dychwelyd i dir gwyrdd, ac mae hwn yn safle cyfleus ar gyfer tref Wrecsam ac ar gyfer y priffyrdd i’r ardal.  Rydym wedi cydweithio’n agos a hapus gyda Chyngor Wrecsam am y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at yr wythnos ei hun erbyn hyn.”

Mae’r Ganolfan Groeso yn y broses o gael ei chreu ar hyn o bryd, ac eleni, bydd Mynedfa Dau hefyd yn brysur, gan mai yma bydd y cystadleuwyr i gyd yn cael eu gollwng a phawb sy’n teithio i’r Brifwyl mewn bws, ac mae trefnwyr yn awyddus i Eisteddfodwyr lleol ddefnyddio’r system bws gwennol.

“Bydd bysiau gwennol yn rhedeg o dref Wrecsam bob 10 munud, gan alw yn yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau ac yn y Maes ei hun,” meddai Hywel Wyn Edwards.

“Fe fyddan nhw’n rhedeg o 8.00am tan ar ôl y cyngherddau nos.  Rydym yn annog pobl leol i ddefnyddio’r bysiau er mwyn cyrraedd gan eu bod yn ffordd hynod hwylus o ddod i’r Maes.”

‘Agos at ei gilydd’

“Eleni, mae’r meysydd parcio’n gyfochrog â’r Maes ei hun, a dyma lle mae’r maes carafanau hefyd, felly mae popeth yn agos at ei gilydd ar dir yr un fferm.

“Mae hyn, wrth gwrs, yn fanteisiol iawn yn arbennig ar gyfer ein carafanawyr, ac mae Maes C hefyd y drws nesaf i’r maes carafanau yng nghanolfan chwaraeon Ysgol Clywedog.”

Fe fydd Maes B ym Mhrifysgol Glyndŵr. O ganol yr wythnos ymlaen, bydd dau lwyfan, un yn Undeb y Myfyrwyr a’r llall yn Neuadd William Aston, a bydd bysiau’n rhedeg yn rheolaidd rhwng y brifysgol a’r maes carafanau a’r maes ieuenctid ar gyfer mynychwyr Maes B.

Bydd y swyddfa ar y Maes cyn diwedd yr wythnos, gyda’r staff i gyd yn gweithio o’r Maes am yr wythnos olaf cyn i Eisteddfod Wrecsam a’r Fro agor ei giatiau.

“Mae’r cyfnod yma, yr ychydig ddyddiau cyn dechrau’r Eisteddfod, yn gyfnod cyffrous.  Mae’r staff i gyd yn edrych ymlaen i fod ar y Maes ac i sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer yr wythnos,” meddai Hywel Wyn Edwards.

“Mae llawer o bobl yng Nghymru’n gweld yr Eisteddfod fel uchafbwynt y flwyddyn ac yn edrych ymlaen, ac rydan ni fel staff yr un fath.”