Mae cais am drwydded i sefydlu gorsaf radio gymunedol ar gyfer Gorllewin Cymru fydd â phwyslais ar y Gymraeg wedi’i gyflwyno i Ofcom.

Cadarnhaodd Cadeirydd Cyfeillion Gorsaf Radio Ceredigion wrth Golwg 360 heddiw eu bod nhw wedi gwneud y cais yn swyddogol.

Mae’r cais i sefydlu Radio Beca yn un “cynhwysfawr ac arloesol,” meddai Geraint Davies.

“Dw i’n mawr obeithio y bydd Ofcom yn rhoi ystyriaeth deilwng i’r cais ac yn ei gymeradwyo,” meddai cyn dweud fod yn gam “allweddol bwysig i bobl Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion”.

‘Tranc yn dystiolaeth’

Daw’r cais yn sgil anhapusrwydd â darpariaeth iaith Gymraeg gorsaf Radio Ceredigion.

Yn gynharach yn y mis gwrthododd Ofcom gais i leihau nifer yr oriau Cymraeg sy’n cael eu darlledu ar yr orsaf.

Roedd y perchnogion Town and Country Broadcasting wedi gwneud cais i Ofcom er mwyn gostwng nifer yr oriau oedd rhaid eu darlledu trwy’r Gymraeg.

Roedden nhw eisiau newid eu trwydded ddarlledu, fel mai dim ond awr o ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg fyddai ei angen yn ystod y dydd.

Dywedodd Geraint Davies “nad yw’r gwasanaethau presennol yn cwrdd â gofynion a dymuniadau’r gwrandawyr”.

“Mae’r gwacter sydd wedi’i greu gan y newid o fewn Radio Ceredigion yn newid wedi tristau cannoedd os nad miloedd o wrandawyr selog y gwasanaeth hwnnw,” meddai.

Mynnodd fod “Town and Country Broadcasting yn anwybyddu’r gofyn” am gyflwyno hanner eu cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg a bod hynny wedi ysgogi cais Radio Beca.

Fe fydd Ofcom yn trafod ac yn ystyried y ceisiadau sydd wedi’u cyflyno yn y misoedd nesaf.

‘Cefnogaeth’

“Mae’r don cefnogaeth – y cannoedd o negeseuon o bob cwr o’r ardal – o Ogledd Sir Benfro, Sir Gâr, o Lanelli i Lanymddyfri a Cheredigion, wedi bod yn anhygoel,” meddai.

Dywedodd fod cais Radio Beca fel un “cyffrous”  sy’n cynnig braslun i Ofcom ynglŷn â “sut i gynnig gwasanaeth cymunedol mewn ardal wledig fel hon”.

“Gobeithio y cawn ni gyhoeddiad cyn diwedd y flwyddyn,” meddai Geraint Davies.

“Nid rhywbeth gwleidyddol yw hwn ond rhywbeth cymdeithasol. Mae Radio Beca yn enw addas iawn.

“Fel yn y 1830au mae’r werin bobl yn y gorllewin yn herio’r sefydliad ac yn gofyn am gyfiawnder.”