Un o sloganau'r ymgyrch i ddiogelu S
Mae S4C wedi croesawu newid yn y gyfraith a fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd arinnol i’r sianel.

Yn unol ag addewid cynharach, mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi cynnig newid i’r Mesur Cyrff Cyhoeddus i osod dyletswydd arno ef i sicrhau bod S4C yn cael digon o arian i wneud ei gwaith.

Mae’n ymgais i dawelu ofnau sydd wedi codi tros y bwriad i roi’r sianel dan adain y BBC ar ôl 2012 – y pryder oedd y byddai S4C yn gorfod cystadlu gydag adrannau eraill y Gorfforaeth am arian o’r drwydded deledu.

‘Mwy o eglurder’

Yn ôl datganiad ar bapur gan Jeremy Hunt, fe fydd y newid yn rhoi “mwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i S4C yn y tymor hir.

“Bydd y cymal newydd am y tro cynta’n gosod gorfodaeth statudol bod S4C yn derbyn digon o arian i allu cyflawni ei rôl statudol ac allweddol bwysig o fod yn ddarlledwr Cymraeg annibynnol.”

Fe addawodd hefyd y byddai’r Llywodraeth yn ymgynghori ynglŷn â’r gorchymyn fydd yn cael ei wneud i newid trefn reoli’r sianel.

S4C yn croesawu

Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg 360 y byddai’r newid yn “sicrhau mai’r llywodraeth sy’n penderfynu faint o arian fydd ei angen ar S4C yn y blynyddoedd sydd i ddilyn”.

Yn ôl y datganiad gan Jeremy Hunt,  mae’r trafodaethau’n parhau ynglŷn â sut yn union y bydd y trefniant rhwng S4C a’r BBC yn cael ei weithredu.

“Mae trafodaethau rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC ar faterion yn ymwneud â model y bartneriaeth yn parhau, ac mae pethau’n edrych yn addawol yn sgîl penodi Cadeirydd newydd i S4C,” meddai.