Fe fydd band roc yn parhau gyda thaith haf o barch at y diweddar Geraint Bowen, a oedd yn daid i dri o’r aelodau.
Fyddai’r cyn Archdderwydd ddim eisiau eu gweld nhw’n canslo gigs, meddai Tomos Owens o fand y Bandana.
Roedd y prifardd a’r ysgolhaig yn daid iddo ef a’i frawd, Sion, ac i’w cefnder Gwilym Rhys ac, yn ôl y tri, roedd wrth ei fodd yn gwrando arnyn nhw.
Roedd un o ferched a meibion yng nghyfraith Geraint Bowen hefyd wedi bod mewn bandiau ac, yn ôl ei wyrion, roedd ganddo ran yn un o ddigwyddiadau hanesyddol y byd roc Cymraeg.
Er oedd un o drefnwyr cyngerdd yn y Babell Lên yn Eisteddfod y Bala yn 1967 pan ganodd Y Blew, y grŵp trydanol cynta’ yn hanes yr iaith.