Bydd y Cymro Rhys Ifans yn chwarae rhan yn y ffilm James Bond nesaf.

Yn ôl adroddiadau fe fydd yn chwarae rhan Q, y dyfeisydd sy’n arfogi’r ysbïwr enwog cyn pob cyrch newydd.

Cafodd y rhan ei actio gan Gymro arall, Desmond Llewellyn, mewn 17 ffilm James Bond rhwng 1963 a 1999. Fe fu farw mewn damwain car yn fuan ar ôl rhyddhau ffilm The World is Not Enough.

Bydd Javier Bardem a Ralph Fiennes yn chwarae rhan gelynion James Bond yn y 23ain ffilm yn y gyfres.

Bydd Daniel Craig yn dychwelyd yn rhan James Bond, a Judi Dench yn chwarae rhan M unwaith eto.

Caiff y ffilm ei gyfarwyddo gan Sam Mendes a’i ffilmio yn Ne Affrica yn bennaf.