Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio y gallai arfordir Cymru droi yn “botes o sgelfrod-môr” yr haf yma.
Mae nifer y sgelfrod-môr ar yr arfordir ar gynnydd, yn ôl y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Llygredd, gorbysgota a newid hinsawdd sy’n cael y bai.
“Mae’r rhan fwyaf o’r sgelfrod-môr yn heidio at ei gilydd yn yr haf, ond mae rhai rhywogaethau yn gallu goroesi’r gaeaf hefyd,” meddai Peter Richardson, rheolwr cynllun bioamrywiaeth y gymdeithas.
“Eleni fe dderbynion ni’r adroddiadau cyntaf am sglefrod-mor anferth ar arfordir gogledd Cymru ddechrau mis Ionawr.
“Ers hynny mae nifer enfawr ohonyn nhw wedi ymddangos ym Môr Iwerddon.
“Ers mis Mai rydyn ni hefyd wedi derbyn adroddiadau fod nifer mawr iawn o wahanol rywogaethau o sgelfrod-môr ar hyd yr arfordir ym mhob rhan o Brydain.”
Cynnal arolwg
Mae’r gymdeithas yn galw ar bobol sy’n ymweld â’r traeth i gymryd rhan mewn arolwg sy’n gobeithio dysgu rhagor am faint o sgelfrod-môr sydd i’w cael.
“Mae yna dystiolaeth gref fod nifer y sgelfrod-môr yn cynyddu yn fyd-eang. Mae poblogaeth sgelfrod-môr yn arwydd o gyflwr ein moroedd ni.”
Rhybuddiodd y dylai unrhyw un sy’n ddigon dewr i agosáu at sgelfren-môr “edrych ond peidio cyfwrdd” rhag ofn i’r creadur bigo.
Dylai unrhyw un sydd am roi gwybod eu bod nhw wedi gweld sgelfren-môr ymweld â www.mcsuk.org.