Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn cwrdd heddiw gyda’r nod o ddatrys yr argyfwng ariannol sy’n bygwth dyfodol parth yr Ewro.

Bydd 17 o arweinwyr Ewropeaidd yn cynnal cyfarfod brys wrth i’r argyfwng ariannol ledu o Wlad Groeg, Iwerddon a Phortiwgal i wledydd mwy, gan gynnwys yr Eidal a Sbaen.

Mae’r Eidal bellach ar y dibyn wrth i gost benthyca arian gyrraedd 6%. Pe bai’n methu talu’r dyledion fe allai greu problemau ariannol i wledydd eraill Ewrop ac arwain at ail ddirwasgiad.

Ychydig oriau cyn y cyfarfod, cyhoeddodd Ffrainc a’r Almaen fod ganddyn nhw gynllun er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Roedd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ac Arlywydd Ffrainc, Nicholas Sarkozy, wedi cwrdd ym Merlin ddydd Mercher er mwyn trafod beth sy’n bosib.

Ymysg yr opsiynau sy’n cael eu trafod gan arbenigwyr economaidd, mae datgymalu parth yr Ewro fel bod rhai gwledydd yn cael troi’n ôl at ddefnyddio’u harian eu hunain.

‘Canlyniadau negyddol’

Cafodd y cyfarfod ei drefnu;n wreiddiol er mwyn ceisio datrys argyfwng ariannol Gwlad Groeg, gan gynnwys penderfynu pwy fydd yn talu am ddyled y wlad yn y dyfodol.

Ond mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd wedi rhybuddio arweinwyr parth yr Ewro fod rhagor na hynny yn y fantol a bod rhaid iddyn nhw ddod i gytundeb er lles gweddill y cyfandir.

Fe fyddai gan unrhyw ymateb arall “ganlyniadau negyddol fydd yn cyrraedd pob cwr o Ewrop a thu hwnt”, yn ôl Jose Manuel Barroso.

Awgrymodd Angela Merkel na ddylai gwledydd parth yn Ewro ddisgwyl gormod o’r cyfarfod heddiw: “Os ydych chi eisiau ymddwyn mewn modd cyfrifol rydych chi’n gwybod na fydd y fath gam y digwydd, gan gynnwys dydd Iau,” meddai.

Mae yna wrthwynebiad yn yr Almaen, yr Iseldiroedd a’r Ffindir i dalu dyledion y gwledydd rheini sydd wedi mynd i ddyled fawr.