Archesgob Cymru - ei gynnig wedi'i wrthod
Roedd arweinwyr eglwys yn y Rhondda yn “crynu a chrio” ar ôl cerdded allan o gyfarfod gydag Archesgob Cymru, meddai’r warden lleol.

Fe wrthododd Barry Morgan eu cais am flwyddyn o ras cyn cau Eglwys yr Holl Saint ym Maerdy ac, yn ôl Barbara Daniel, roedden nhw’n “hynod hynod siomedig” gyda’i gynnig iddyn nhw brynu’r adeilad.

Maen nhw wedi gwrthod yr awgrym ond heb benderfynu beth fydd eu cam nesa’.

Parhau i feddiannu

Fe ddywedodd Barbara Daniel wrth Golwg 360 y bydd plwyfolion yn parhau i feddiannu’r eglwys, gyda chyfarfod o’r aelodau ddydd Sul a chyfarfod cyhoeddus yn y pentref nos Lun.

Roedd yr Archesgob wedi gwneud ei gynnig mewn cyfarfod rhwng y Cyngor Plwyf Eglwysig a chynrychiolwyr eglwysi Maerdy, Glynrhedynog a Tylorstwon.

Roedd Barry Morgan wedi dweud wrth y bobol leol y gallen nhw brynu’r adeilad a pharhau i’w ddefnyddio, os oedden nhw’n gallu dod o hyd i’r arian i’w atgyweirio a’i gynnal.

Fe ddywedodd hefyd y gallai’r priodasau oedd wedi’u trefnu yno barhau dros y misoedd nesaf.

‘Angen gwaith’

“Nid dyma yr oedd y plwyfolion wedi gofyn amdano,” meddai Barbara Daniel wrth Golwg 360. “Am 12 mis ychwanegol yr oedden ni wedi gofyn.

“Maen nhw’n dal i ddweud wrthon ni nad yw’r Eglwys yn ddiogel – ond ddoe fe gawson ni syrfëwr yno  ac fe ddywedodd e fod yr Eglwys yn ddiogel ond fod angen gwaith arni.”

Roedd y cyfan werth tua £100,000, meddai, cyn egluro y byddai’r plwyfolion a phobol Maerdy’n ystyried beth i’w wneud nesa’.

“Dydy hyn ddim yn benderfyniad fedrwn ni ei wneud ar chwarae bach.”

‘Ymateb Barbara Daniel i’r cyfarfod

“Roedden nhw’n dal i ddweud yr un peth wrthon ni drosodd a throsodd. Roedden ni’n teimlo fod y gwynt wedi’i dynnu o’n hwyliau ni – doedden nhw ddim yn cynnig dim oedden ni eisiau.

“Fe godon ni a cherdded allan ac roedd y chwe aelod, roedden ni wedi’n hypsetio gyda’r sefyllfa. Roedden ni wir yn meddwl y byddai’r Archesgob yn rhoi blwyddyn i ni  – roedden ni’n hynod, hynod siomedig.