Mae arbenigwyr wedi gofyn i bobol o ogledd ddwyrain Cymru ddarparu samplau DNA, er mwyn ceisio penderfynu pam fod gan rai dynion o’r ardal gyfansoddiad genetig prin iawn.
Mae 500 o bobol eisoes wedi cymryd rhan yn yr ymchwil, sy’n dangos fod 30% o ddynion yr ardal yn cario math anarferol o’r cromosom Y, o’i gymharu â dim ond 1% o’r dynion ar draws gweddill Ynysoedd Prydain.
Mae’r cromosom yn fwy cyffredin ymhlith dynion o ardaloedd Mediteranaidd, ac mae arbenigwyr yn ceisio penderfynu ai ymfudwyr o’r ardaloedd rheini 4,000 o flynyddoedd yn ôl sy’n gyfrifol.
Galw am DNA
Tîm o wyddonwyr o Brifysgol Sheffield sy’n gwneud y gwaith ymchwil ar hyn o bryd, dan arweiniad Dr Andy Grierson a Dr Robert Johnston.
Heddiw, fe fydd Dr Grierson yn rhoi araith ar yr ymchwil ym Mhrifysgol Glyndŵr, ac fe fydd yn apelio ar bobol sydd â chyndeidiau o’r ardal i ddod i siarad ag ef, er mwyn ceisio darganfod eu hanes teuluol, a’u gwahodd i gyfrannu sampl o’u DNA.
“Mae gan nifer o bobol o ogledd ddwyrain Cymry’r cyfansoddiad genetig hwn hynod anghyffredin,” meddai. “Mae geneteg yn rhoi cyfle i ni edrych ar hanes poblogaeth trwy eu disgynyddion presennol.
“Mae’r math yma o gyfansoddiad geneteg yn dod, fel arfer, o ardaloedd Mediteranaidd,” meddai.
Ond dydi arbenigwyr ddim wedi darganfod unrhyw gysylltiad cadarn rhwng y rhan hwn o Gymru, ac ardal Fediteranaidd Ewrop.
Un theori yw bod pobol wedi mudo i’r ardal yn ystod yr Oes Efydd wrth chwilio am gopr – sydd i’w gael ar Fynydd Parys yn Ynys Môn, ac ar y Gogarth yn Llandudno.
Bydd Gwaddol Geneteg y Gymdeithas Ganoloesol yn cael ei gynnal ar gampws Prifysgol Glyndŵr y prynhawn yma am 6pm.