Mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu rhoi sêl bendith i gynllun i ddifa moch daear yn Lloegr er mwyn mynd i’r afael â TB ychol.

Dywedodd y Gweinidog Amgylcheddol Caroline Spelman ei bod hi’n cydnabod fod “teimladau cryf” ar y naill ochor i’r ddadl ond ei bod hi’n “credu mai dyma’r ffordd gywir ymlaen”.

Mae ffermwyr wedi galw am ddifa’r anifeiliaid, sy’n cario a lledaenu TB ychol, er mwyn ceisio atal yr afiechyd sy’n broblem fawr yng Nghymru a De Orllewin Lloegr.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu peidio â bwrw ymlaen â difa moch daear, ar ôl i’r llywodraeth glymbleidiol flaenorol ei gefnogi.

Cyhoeddodd Gweinidog Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, John Griffiths, fis diwethaf eu bod nhw’n bwriadu comisiynu panel arbenigol er mwyn cynnal ymchwiliad gwyddonol i’r dystiolaeth cyn bwrw ymlaen â’r cynllun.

Dywedodd y bydd yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn yr hydref.

Ymddiswyddodd cadeiryddion tri bwrdd rhanbarthol sy’n gyfrifol am geisio cael gwared â TB ychol yn sgil y penderfyniad gan honni fod Llywodraeth Cymru wedi eu “camarwain”.

Difa

Dywedodd Caroline Spelman y byddai yna ddau gynllun peilot i ddifa moch daear o fewn blwyddyn gyntaf y cynllun.

“Hoffwn i petai yna ffordd ymarferol arall o fynd i’r afael â hyn, ond does dim modd osgoi’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r achos o blaid difa moch daear yn yr ardaloedd rheini sydd wedi eu heffeithio yn ddrwg gan TB ychol,” meddai.

Mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu’r penderfyniad. Dywedodd ysgrifennydd amgylcheddol yr wrthblaid, Mary Creagh, nad oedd y dystiolaeth wyddonol yn cefnogi’r difa.

“Dyw eich ateb chi – sef saethu moch daear ar hap – erioed wedi ei brofi. Felly does dim tystiolaeth o blaid,” meddai.

Dywedodd llywydd NFU Ed Bailey ei fod yn “falch o weld bod Llywodraeth San Steffan yn cydnabod yr angen am ddifa moch daear”.

“Ond fe fydd hyn yn gwneud dim ond cythruddo ffermwyr sy’n dioddef wrth i Lywodraeth Cymru dindroi.

“Roedd Cymru ar flaen y gad ar un adeg o ran creu cynllun cynhwysfawr er mwyn mynd i’r afael â TB ychol.”