Roedd cynnydd yn nifer y cwynion am y Post Brenhinol yng Nghymru yn 2010/11, a bu’n rhaid i’r cwmni dalu dros £300,000 mewn iawndaliadau am eitemau coll.

Yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru, derbyniodd y Post Brenhinol bron i 50,000 o gwynion gan ddefnyddwyr yng Nghymru, sef 500 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.

Yn ogystal ag eitemau coll, y prif resymau eraill dros gwyno oedd arallgyfeirio (talwyd £31,000 mewn iawndaliadau) ac oedi (£10,000), medden nhw.

Serch hynny, gostyngodd cyfanswm yr iawndaliadau a dalwyd ar gyfer yr holl gategorïau o £455,000 yn 2009/10 i £413,000 yn 2010/11.

CF

Yn rhanbarthol, gwnaed y nifer fwyaf o gwynion (13,640) yn ardal cod post CF y brifddinas Caerdydd, lle cafodd defnyddwyr fwy na chwarter yr iawndal a dalwyd yng Nghymru (£106,000).

“Caiff rhan helaeth o’r post ei ddosbarthu’n ddiogel ond pan gaiff pethau eu colli neu eu dwyn, mae’n annerbyniol ac yn peri llawer o ofid,” meddai Rebecca Thomas, arbenigwraig polisi’r Post Brenhinol yn Llais Defnyddwyr Cymru.

“Pa bryd bynnag y bydd pobl yn anfon arian parod neu dalebau, dylent ddefnyddio gwasanaeth Special Delivery. Mae’n costio mwy ond mae’n darparu yswiriant.

‘Mae’r Post Brenhinol wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf ond ni all fod yn hunanfodlon. Os caiff post ei golli neu ei ddwyn, dylai pobl gwyno a cheisio iawndal. Mae’n hanfodol bod y Post Brenhinol yn gweithredu’n gywir er mwyn cynnal ymddiriedaeth ei gwsmeriaid a chadw eu busnes.’

Map Post Cymru

Mae Map Post Cymru yn galluogi defnyddwyr i chwilio yn ôl cod post i weld sut mae’r Post Brenhinol yn perfformio ym mhob ardal.