Mochyn Daear
Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi heddiw eu bod nhw’n mynd i ddifa moch daear yn Lloegr.

Mae ffermwyr wedi galw am ddifa’r anifeiliaid, sy’n cario a lledaenu TB ychol, er mwyn ceisio atal yr afiechyd sy’n broblem fawr yng Nghymru a De Orllewin Lloegr.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Amgylcheddol, Caroline Spelman, yn datgelu’r cynlluniau yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu peidio â bwrw ymlaen â difa moch daear, ar ôl i’r llywodraeth glymbleidiol flaenorol ei gefnogi.

Cyhoeddodd Gweinidog Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, John Griffiths, fis diwethaf eu bod nhw’n bwriadu comisiynu panel arbenigol er mwyn cynnal ymchwiliad gwyddonol i’r dystiolaeth cyn bwrw ymlaen â’r cynllun.

Dywedodd y bydd yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn yr hydref.

Ymddiswyddodd cadeiryddion tri bwrdd rhanbarthol sy’n gyfrifol am geisio cael gwared â TB ychol yn sgil y penderfyniad gan honni fod Llywodraeth Cymru wedi eu “camarwain”.

Gwrthwynebu

Mae mudiadau diogelu anifeiliaid wedi dweud nad difa moch daear yw’r ffordd gorau o warchod yn erbyn yr afiechyd.

Yr wythnos diwethaf dywedodd yr Arglwydd Kerbs, oedd wedi cynnal ymchwiliad trwyadl i’r cysylltiad rhwng moch daear a TB ychol yn y 90au, nad oedd yn credu fod difa moch daear yn “bolisi effeithiol”.

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod difa moch daear am bedair blynedd yn lleihau TB mewn gwartheg tua 12% i 16%,” meddai.

“Felly bydd 85% o’r broblem dal yno ar ôl mynd i’r holl drafferth o ddifa nifer fawr o foch daear.

“Nid yw’n fy nharo i fel modd effeithiol o reoli’r afiechyd.”