Emyr Jones
Mae undeb ffermwyr wedi condemnio un o weinidogion y llywodraeth yn Llundain am wfftio cyfraniad ffermwyr bach.

Roedd ffermydd teulu’n allweddol o ran dyfodol ffermio yng Nghymru ac roedd hanes yn dangos y bydden nhw’n gwneud cyfraniad mawr i gynyddu cynnyrch bwyd, meddai Llywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones.

Roedd yn annerch cyfarfod yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ar ôl i’r undeb gyhoeddi papur yn taro’n ôl yn erbyn Gweinidog Amaeth Prydain, Jim Paice.

‘Tanseilio’

Roedd hwnnw wedi awgrymu y dylai arian y Llywodraeth fynd i gefnogi ymchwil mewn ffermydd mawr, yn hytrach na rhai bach.

“Mi fyddai unrhyw symudiad sy’n ffafrio ffermydd mwy yn tanseilio ein ffermydd mwya’ cynhyrchiol a chael effaith ddrwg ar gynnyrch amaethyddol yn gyffredinol,” meddai.

“Mewn ffermydd teulu y mae’r rhan fwya’ o’n bwyd ni’n cael ei godi yng Nghymru a rhaid i ni ymdrechu i wneud yn siŵr ei bod yn aros felly.”

Bwyd yn ‘ddiwydiant mawr’

Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth yng Nghymru wedi pwysleisio bod y sector bwyd yn “fusnes mawr”, gyda’r sector cig coch yn unig werth tua biliwn o bunnoedd i economi Cymru.

“Mae bwyd Cymru’n haeddu cael ei gydnabod yn ddiwydiant o bwys ac rwy’ wedi ymrwymo i greu’r amodau sy’n caniatáu i hynny ddigwydd, “ meddai Alun Davies wrth y corff bwyd, Hybu Cig Cymru.