Ty'r Cyffredin
Fe fydd cyn Brif Weithredwr News International yn ymddangos o flaen Pwyllgor Dethol yn y Senedd fory, er ei bod hi wedi cael ei harestio ddoe.

Ac mae un o uchel swyddogion Scotland Yard yn cael ei alw’n ôl i roi sesiwn arall o dystiolaeth o flaen Pwyllgor Dethol arall.

Fe gadarnhaodd cyfreithiwr ar ran Rebekah Brooks ei bod yn fodlon ateb cwestiynau’r Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant a’r Cyfryngau.

Mater i’r Senedd, meddai, oedd penderfynu pa gwestiynau i’w gofyn ac a fyddai’n ddoethach gohirio’r gwrandawiad – mae’n debyg nes i’r broses gyfreithiol ddod i ben.

Roedd yn beirniadu’r heddlu, gan ddweud eu bod wedi holi Rebekah Brooks am naw awr, heb wneud unrhyw honiadau yn ei herbyn na dangos tystiolaeth.

Pwysau ar Yates o’r Yard

Yn y cyfamser, fe fydd John Yates, y Comisiynydd Cynorthwyol yn Heddlu Llundain yn gorfod mynd yn ôl eto gerbron y Pwyllgor Materion Cartref.

Roedd wedi cael ei holi’n galed yr wythnos ddiwetha’ ond roedd hynny cyn i ragor o wybodaeth ddod i’r amlwg am berthynas yr heddlu a phapurau News Interational a chyn ymddiswyddiad ei bennaeth, Syr Paul Stephenson.

Mae Awdurdod Heddlu Llundain yn cyfarfod heddiw i ystyried a oes angen ymchwiliad disgyblu yn achos John Yates.

Cameron – am ddod i Dŷ’r Cyffredin

Yn sgil hynny, mae’r cwestiynau’n parhau am rôl y Prif Weinidog yn penodi cyn olygydd y News of the World yn bennaeth cysylltiadau cyhoeddus – ar ôl iddo ymddiswyddo oherwydd y sgandal am hacio ffonau.

Fe wrthododd David Cameron sylwadau’r rhai sy’n ei feirniadu am fynd ar daith dramor i Affrica yn ystod yr helynt – fe gadarnhaodd y bydd sesiwn y Senedd yn cael ei hymestyn o ddiwrnod er mwyn iddo ef allu ateb cwestiynau.