Gorsaf bad achub Ynys Môn oedd y prysuraf yng Nghymru yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan Sefydliad Brenhinol y Badau Achub.

Dywedodd y sefydliad eu bod nhw wedi achub mwy na 8,000 o bobol o’r môr oddi ar arfordir Prydain yn 2010 – gan gynnwys 2,690 oddi ar arfordir Cymru.

Gorsaf Biwmares oedd y prysuraf yng Nghymru – ar ôl derbyn 83 galwad y llynedd.

Llwyddodd y criw i achub 57 o bobol gan gynnwys naw myfyriwr o Brifysgol Bangor ddisgynnodd o gwch ar yr Afon Menai ym mis Medi.

Gorsaf bad achub Poole yn Dorset oedd y prysuraf ym Mhrydain. Cafodd y bad achub ei galw 148 o weithiau, gan achub 155 o bobol.

Cafodd 18,775 o bobol ar draws Prydain ryw fath o gymorth gan weithwyr badau achub.

“Fe fydd 2010 yn cael ei gofio am gyfres o drychinebau erchyll mewn gwledydd eraill ond unwaith eto mae gweithwyr gwirfoddol  Sefydliad Brenhinol y Badau Achub wedi dangos eu hymrwymiad i achub bywydau ar y môr,” meddai cyfarwyddwr y sefydliad, Michael Vlasto.