Ymddangosodd Prif Weithredwr Cyngor Conwy o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ddoe,wedi ei gyhuddo o dreisio dynes briod yn ei dŷ.

Clywodd y llys bod Byron Davies, 52, wedi cwrdd â’r ddynes 26 oed mewn tafarn yn ystod noson allan gyda ffrind.

Yn ôl yr erlyniad roedd y ddynes wedi meddwi a doedd ganddi ddim cof o’r hyn ddigwyddodd ar ôl mynd i gartref Byron Davies, ac nad oedd hi felly yn bosib ei bod hi wedi cytuno i gael rhyw.

Mae Byron Davies, sy’n hanu o Yelverton yn Nyfnaint, wedi gwadu’r cyhuddiad o dreisio, gan ddweud ei bod hi’n ddigon bodlon mynd yn ôl gydag ef i’w fflat a chael rhyw gydag ef yn ei wely.

Ddigwyddodd y cyfan ar ar Fawrth 23 y llynedd wedi i’r ddynes gwrdd â ffrind iddi yng Nghonwy ar ôl gwaith.

Ar yr un noson, roedd Byron Davies yn eistedd yn y Castle Hotel yng Nghonwy. Fe aeth y ddynes draw ato a holi ai ef oedd Byron Davies, am ei fod yn edrych yn gyfarwydd iddi.

Yn ôl yr erlyniad, dechreuodd y ddau sgwrsio ac fe brynodd Byron Davies ddiod arall iddi.

“Doedd dim awgrym, yn ei barn hi, fod ganddo ddiddordeb rhywiol ynddi, a doedd dim bwriad ganddi roi’r argraff hynny iddo ef chwaith,” meddai’r bargyfreithiwr.

“Mae ei chof yn aneglur iawn wedi’r ddiod honno.”

Ddim yn cofio

Mae’r ddynes yn cofio gadael y Castle Hotel yng nghar y diffynnydd a bod yn ei gartref ychydig yn ddiweddarach.

“Mae hi’n cofio Mr Davies yn dod ati ac yn ei chusanu ar ei gwefusau, ac mae hi’n cofio ei wthio oddi arni,” meddai’r bargyfreithiwr. “Mae ganddi hefyd frith gof ohono’n ei chyffwrdd hi mewn man preifat.

“Ond y peth nesaf mae hi’n ei gofio yw cael ei dihuno gan y diffynnydd ac yntau’n dweud ei bod hi’n fore.

“Ar ôl dihuno awgrymodd y diffynnydd y dylen nhw gael ‘un cyflym’ arall cyn mynd i’r gwaith,” meddai’r bargyfreithiwr.

“Er ei bod hi braidd yn gymysglyd roedd hi’n deall yn union beth yr oedd e’n awgrymu. Aeth hi’n syth allan o’r gwely, gan ddweud ei fod wedi camddeall.”

Gwadu’r cyhuddiad

Cafodd Byron Davies ei arestio yn ei fflat ychydig ar ôl hanner nos ar 25 Mawrth, ac wrth gael ei gyfweld roedd yn gwadu ei threisio.

Yn ôl Byron Davies, hi oedd wedi mynd ato fe yn y lle cyntaf, roedden nhw wedi sgwrsio, ac fe brynodd ddwy ddiod o gwrw iddi.

Dywedodd fod y ddynes wedi ei holi fwy nag unwaith os oedd ganddo ystafell yn y gwesty, cyn iddi ei ddilyn yn fodlon iawn i’w gartref.

Bu’r ddau’n cusanu cyn iddo ei chario, gyda’i chaniatâd hi, i mewn i’r ystafell wely, meddai wrth yr heddlu.

Cyfaddefodd ei fod e wedi diosg ei ddillad ei hun, ynghŷd â’i theits a’i dillad isaf hi, a’i fod e wedi cesio cael rhyw gyda hi mwy nag unwaith.

Dywdeodd y bargyfreithiwr wrth y rheithgor ei bod hi “o bosib wedi ymddwyn yn annoeth y noson honno, a’i bod hi wedi yfed mwy nag oedd o les iddi.”

“Ond mae’r erlyniad yn awgrymu nad oedd hi wedi rhoi ei chaniatad i gael rhyw.

“Rydyn ni’n awgrymu bod yn rhaid ei fod e’n ymwybodol nad oedd hi mewn sefyllfa i roi ei chaniatâd i gael rhyw, oherwydd ei meddwdod.

“Mewn geiriau eraill, gallai’r diffynydd ddim credu’n rhesymol ei bod hi’n rhoi ei chaniatad iddo y noson honno nac yn oriau man y bore hwnnw.”