Can diwrnod yn union cyn Etholiad y Cynulliad ar Fai 5, mae Plaid Cymru heddiw wedi dechrau’r ymgyrch drwy lawnsio gwefan newydd sbon.
Dywedodd y blaid y bydd y safle sydd wedi ei lansio yn dilyn “misoedd o ddatblygu” yn rhan allweddol o’u strategaeth etholiadol ac yn ganolbwynt ar-lein i helpu’r ymgyrch ar lawr gwlad.
Mae’r wefan wedi ei hasio gyda safleoedd rhwydweithio cymdeithasol poblogaidd fel Facebook a Twitter “a chaiff ei defnyddio i ddwyn cefnogwyr ynghyd i gymryd rhan yn ymgyrch fwyaf y Blaid erioed”.
Dywedodd Elin Jones, cyfarwyddyd cyfathrebu’r Blaid, y bydd y gwefan yn galluogi iddyn nhw “redeg ein hymgyrch fwyaf arloesol ac uchelgeisiol hyd yma”.
“Gydag union gan diwrnod cyn Etholiad Cyffredinol Cymru ar 5 Mai, rydym yn cyflymu ein hymgyrch gyda’r wefan gyffrous newydd hon,” meddai cyfarwyddyd cyfathrebu’r Blaid, Elin Jones.
“Yn ogystal â darparu’r newyddion, y wybodaeth a’r polisïau diweddaraf, bydd Canolfan Weithredu newydd y safle yn galluogi cefnogwyr i drefnu cyfarfodydd i ddosbarthu taflenni ac i ganfasio, lawrlwytho taflenni a phosteri i’w dosbarthu yn eu hardal leol, a lledu’r neges i gyfeillion a theulu trwy gymwysiadau penodol.
“Mae’r safle yn integreiddio rhwydweithio cymdeithasol megis Facebook a twitter ac yn adeiladu ar gamau newydd blaenorol megis PlaidByw.com i roi gwybodaeth yn fyw i gefnogwyr o’r ymgyrchu wrth iddo ddigwydd ym mhob cwr o’r wlad.”