Mae gwesty wedi ymddiheuro ac addo cael golwg y tu mewn i’w tegelli bob dydd ar ôl i westai ddod o hyd i gondom wrth wneud paned.
Daeth y dyn busnes o hyd i’r condom y tu mewn i’w degell yng Ngwesty Wynnstay, Wrecsam, yn ôl papur newydd y Daily Post.
Cwynodd y dyn busnes Adrian Kruger ac fe benderfynodd y gwesty ad-dalu cost £40 yr ystafell.
“Mae staff y gwesty fel arfer yn gwagio’r dŵr y tu mewn i’r tegelli,” meddai llefarydd ar ran y gwesty wrth y papur.
“Roedd rhywun wedi chwarae tric ac oherwydd y ffilter yn y tegell doedd y condom heb ddod allan.
“O ganlyniad i hyn fe fydd staff yn edrych i mewn i’r tegelli bob dydd er mwyn sicrhau nad oes dim byd y tu mewn.”