Roedd ergyd sylweddol i adferiad economaidd Prydain heddiw wrth i’r ffigyrau swyddogol ddangos bod yr economi wedi crebachu 0.5% ym mhedwerydd chwarter 2010, gan godi pryderon ynglŷn â dirwasgiad dwbl.
Y tywydd garw fis diwethaf oedd yn bennaf gyfrifol am y gwymp annisgwyl rhwng mis Hydref a Rhagfyr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd economegwyr yn disgwyl twf o rhwng 0.2% a 0.6% yn y pedwerydd chwarter – ond roedden nhw wedi rhybuddio y gallai’r tywydd garw effeithio ar hynny.
Dyma’r cwymp cyntaf ers trydydd chwarter 2009, ac mae’n golygu mai dim ond 1.4% y tyfodd yr economi yn 2010.
Torri’n rhy fuan?
Fe fydd y cwymp yn codi pryderon mawr ynglŷn â chryfder yr economi wrth i’r llywodraeth fwrw ymlaen â chynlluniau i dorri yn ôl ar wario cyhoeddus.
Bydd £81 biliwn o wario cyhoeddus yn cael ei dorri ac mae disgwyl i gannoedd o filoedd o weithwyr yn y sector gyhoeddus golli eu swyddi.
Ond fe fydd gwendid yr economi yn codi amheuon ynglŷn â gallu’r sector breifat i lenwi’r bwlch ac osgoi dirwasgiad dwbl.
“Mae’r ffigyrau yn amlwg yn siomedig, ond mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud mai’r tywydd ofnadwy ym mis Rhagfyr oedd yn bennaf gyfrifol,” meddai’r Canghellor George Osborne.
“Rydym ni wedi dioddef y gaeaf oeraf ers dechrau cofnodion yn 1910 ac mae hynny’n amlwg wedi bod yn ergyd fawr i’r economi.
“Mae’n arwyddocaol bod sectorau oedd heb eu heffeithio gan y tywydd, er enghraifft y diwydiant cynhyrchu, wedi parhau i dyfu.
“Does yna ddim diben newid ein cynllun economaidd o ganlyniad i un mis oer. Ni fydd y tywydd garw yn ein chwythu ni i gyfeiriad arall.”